Perimedr ac arwynebeddEnghreifftiau ar gyfer yr haen uwch yn unig
Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
Dyma lun o ochr grisiau. Cyfrifa arwynebedd yr ochr grisiau sy'n dy wynebu. Edrycha am siapiau wedi'u hailadrodd ynddo.
Mae gan Rhys 8 o'r ochrau grisiau hyn. Mae angen lliwio pob ochr grisiau â staen pren dwywaith ar y ddwy ochr. Cyfrifa faint o staen fydd ei angen os bydd tun 250 ml yn gorchuddio 40,000 cm2. Os yw'r staen hwn yn costio £6.95 am dun 250 ml, faint fydd y staen yn costio?
Datrysiad
Mae'r ochr grisiau yn cynnwys pum trapesiwm, neu drapesiymau (chwith), ac un petryal (de):
Beth am weithio allan arwynebedd un o'r trapesiymau
Mewn gwirionedd nid ydym angen yr hyd 29 cm. Mae wedi cael ei roi yn y cwestiwn i dy ddrysu.
Arwynebedd y trapesiwm = \(\frac{1}{2}\) (18 + 35) × 28
= 26.5 × 28
= 742 cm2
Arwynebedd 5 trapesiwm = 742 × 5 = 3,710 cm2
Arwynebedd y petryal = 28 × 17 = 476 cm2
Cyfanswm yr arwynebedd = 3,710 + 476 = 4,186 cm2
Mae gan Rhys 8 o'r ochrau grisiau hyn:
8 × 4,186 cm2 = 33,488 cm2
Mae angen staenio'r ddwy ochr ddwywaith:
Arwynebedd i'w orchuddio = 2 × 2 × 33,488 = 133,952 cm2
Nifer y tuniau sydd eu hangen = 133,952 ÷ 40,000 = 3.3488 tun.