Perimedr ac arwynebeddArwynebedd siapiau cyfansawdd
Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
I gyfrifo arwynebedd siâp cyfansawdd, mae'n rhaid i ti rannu'r siâp yn betryalau, trionglau neu siapiau eraill wyt ti'n gallu dod o hyd i'w harwynebedd ac yna adia'r arwynebeddau yn ôl at ei gilydd.
Efallai y bydd yn rhaid i ti gyfrifo hydoedd sydd ar goll cyn dod o hyd i arwynebedd rhai o'r siapiau.
Rhanna'r siâp i mewn i betryalau a thrionglau a labela bob un
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Petryal A: yn gyntaf cyfrifa hyd y petryal
Cyfanswm hyd y siâp yw 12 cm, tynna 4 cm ac 1 cm = 7 cm
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Arwynebedd petryal A = hyd × lled = 10 × 7 = 70 cm wedi sgwario
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Petryal B: yn gyntaf cyfrifa hyd y petryal
Hyd petryal B = 4 cm + 1 cm = 5 cm
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Arwynebedd petryal B = hyd × lled = 5 × 4 = 20 cm wedi sgwario
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Triongl C: yn gyntaf cyfrifa uchder y triongl
Cyfanswm uchder y siâp yw 10 cm. Mae tynnu 4 cm sef hyd y sgwâr mae'r triongl arno yn gadael 6 cm ar gyfer uchder y triongl
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Arwynebedd triongl C = ½ × sail × uchder = ½ × 1 × 6 = 3 cm sgwâr
Image caption,
Arwynebedd siâp cyfansawdd
Adia arwynebeddau'r holl siapiau
Cyfanswm arwynebedd = A + B + C = 70 + 20 + 3 = 93 cm sgwâr
1 of 9
Slide1 of 9, Siâp cyfansawdd ag ochr o hydoedd amrywiol. Mae hydoedd pedair o'r ochrau yn anhysbys, Arwynebedd siâp cyfansawdd Cyfrifa arwynebedd y siâp cyfansawdd hwn
End of image gallery
Efallai y bydd darnau wedi'u torri allan o siapiau cyfansawdd eraill. I weithio allan arwynebedd y siapiau hyn, mae'n rhaid i ti gyfrifo arwynebedd y prif siâp a thynnu arwynebedd y darn wedi'i dorri allan.
Question
Cyfrifa arwynebedd y siâp tywyll.
Arwynebedd y petryal = 15 × 20 = 300 mm2
Arwynebedd y trapesiwm = ½ × (10 + 13) × 6 = ½ × 23 × 6 = ½ × 138 = 69 mm2