I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.
Ystyr haneru llinell yw torri llinell yn union yn ei hanner. Mae’n bosib cyfeirio ato hefyd fel llunio hanerydd perpendicwlarPan fydd yr ongl rhwng dwy linell yn ongl sgwâr, dywedwn fod y llinellau yn berpendicwlar., gan y bydd y llinell rwyt ti’n ei llunio ar ongl sgwâr i’r llinell wreiddiol.
Bydd arnat ti angen cwmpas, pensil a phren mesur. Paid â chael gwared ar unrhyw linellau llunio, bydd y rhain yn dangos dy fod wedi defnyddio cwmpas yn hytrach na mesur lle dylai’r llinell fod.
I haneru’r llinell hon, rhaid i ti osod dy gwmpas ychydig dros hanner hyd y llinell. Cadwa dy gwmpas y maint hwn am weddill y cwestiwn
Image caption,
Haneru llinell
Gan osod dy gwmpas ar un pen y llinell (pwynt B yma), llunia arc sy’n croesi’r llinell. Paid ag addasu’r cwmpas
Image caption,
Haneru llinell
Gosoda dy gwmpas ar ben arall y llinell (pwynt A) a llunia arc. Rhaid iddi groesi’r arc arall uwchben ac o dan y llinell
Image caption,
Haneru llinell
Llunia linell syth trwy’r pwynt lle mae’r ddwy arc yn croestorri uwchben ac o dan y llinell. Gelli fesur dwy ochr y llinell i wneud yn siŵr eu bod yr un hyd
Image caption,
Haneru llinell
Mae’r llinell sydd wedi ei llunio’n nodi pob pwynt sy’n gytbell o bwynt A a phwynt B, mae pob pwynt sydd i’r chwith o’r llinell hon (y rhan sydd wedi ei lliwio’n las) yn ‘agosach at bwynt A na phwynt B’ ac mae pob pwynt i’r dde o’r llinell (y rhan sydd wedi ei lliwio’n binc) yn ‘agosach at bwynt B na phwynt A’
1 of 5
Slide1 of 5, Llinell o bwynt A i bwynt B, Haneru llinell I haneru’r llinell hon, rhaid i ti osod dy gwmpas ychydig dros hanner hyd y llinell. Cadwa dy gwmpas y maint hwn am weddill y cwestiwn