Loci a gwneud lluniadauLlunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.
I lunio llinell berpendicwlar o bwynt P at y llinell, dylet gychwyn trwy osod dy gwmpas fel ei fod yn cyrraedd ychydig bach y tu hwnt i’r llinell. Cadwa dy gwmpas y maint hwn am weddill y cwestiwn
Image caption,
Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
Llunia arc sy’n torri’r llinell mewn dau le
Image caption,
Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
O’r ddau bwynt sy’n croestorri, llunia arc o dan y llinell. Os nad ydyn nhw’n cyfarfod, cer yn ôl a gwna’r ddwy arc yn hirach
Image caption,
Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
Llunia linell syth o P, trwy’r groes rwyt ti newydd ei llunio
Image caption,
Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
Gelli wneud yn siŵr fod dy ateb yn gywir trwy fesur yr ongl rhwng y ddwy linell. Gan dy fod wedi llunio’r perpendicwlar, dylai’r ddwy linell gwrdd ar ongl o 90°
1 of 5
Slide1 of 5, Llinell a phwynt uwchlaw wedi'i marcio â P, Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell I lunio llinell berpendicwlar o bwynt P at y llinell, dylet gychwyn trwy osod dy gwmpas fel ei fod yn cyrraedd ychydig bach y tu hwnt i’r llinell. Cadwa dy gwmpas y maint hwn am weddill y cwestiwn