Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.
Mae triongl hafaliad yn rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio i’n helpu i ad-drefnu hafaliadau
Dyma enghraifft o fesur cyfansawdd gan nad yw’n bosib mesur pellter ac amser yn yr un uned. Gellir mesur cyflymder mewn metrau yr eiliad, cilometrau yr awr a nifer o ffurfiau eraill hefyd.
Question
Cyfrifa gyflymder cyfartalog mongŵs os yw’n teithio 4 km mewn 0.25 awr.
Mae hyn yn dy alluogi i gyfrifo un ai pellter neu amser.
Question
Mae car yn teithio o Gaerdydd i Lundain gyda chyflymder cyfartalog o 50 myaMilltir yr awr.. Os yw’r daith yn cymryd tair awr, amcangyfrifa’r pellter o Gaerdydd i Lundain.