Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.
Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur
Cofia fod cyfaint yn cael ei fesur mewn unedau ciwb: mm3, cm3, m3 ayb.
I gyfrifo arwynebedd arwyneb ciwboid, rwyt yn cyfrifo arwynebedd pob wyneb a’u hadio at ei gilydd.
Cofia fod arwynebedd yn cael ei fesur mewn unedau sgwâr: mm2, cm2, m2 ayb.
Cyfrifa gyfaint ac arwynebedd arwyneb y blwch pren hwn sy’n mesur 35 cm wrth 20 cm wrth 15 cm.
\(\text{Cyfaint=lled}\times\text{hyd}\times\text{uchder}\)
1. Cyfrifa gyfaint y blwch pren:
Cyfaint = 20 × 35 × 15 = 10,500 cm3
2. Cyfrifa’r arwynebedd arwyneb trwy gyfrifo arwynebedd pob wyneb a’u hadio at ei gilydd:
Arwynebedd y gwaelod = 35 × 20 = 700 cm2
Mae arwynebedd y top yr un fath = 700 cm2
Arwynebedd y blaen = 35 × 15 = 525 cm2
Mae arwynebedd y cefn yr un fath = 525 cm2
Arwynebedd yr ochr chwith = 15 × 20 = 300 cm2
Mae arwynebedd yr ochr dde yr un fath = 300 cm2
Cyfanswm yr arwynebedd arwyneb = (2 × 700) + (2 × 525) + (2 × 300) = 3,050 cm2