Arwynebedd arwyneb a chyfaintSoletau cyfansawdd – yr haenau canolradd ac uwch
Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.
I gyfrifo arwynebedd arwyneb y siâp hwn, cychwynna trwy nodi dimensiynau pob arwyneb
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Mae’r wyneb ar y blaen a’r cefn yn union yr un fath. Unwaith y byddwn wedi cyfrifo arwynebedd un ohonyn nhw, gallwn ei ddyblu
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Rhanna’r siâp L yn ddau betryal ac adia’r ddau arwynebedd at ei gilydd: Arwynebedd = 5 x 11 + 15 x 4 = 55 + 60 = 115 cm sgwâr Arwynebedd y blaen a’r cefn = 2 x 115 = 230 cm sgwâr
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Mae arwynebedd yr wyneb ar y gwaelod yn hafal i’r ddwy ran ar dop y siâp
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Arwynebedd = 6 x 20 = 120 cm sgwâr Arwynebedd y top a’r gwaelod = 2 x 120 = 240 cm sgwâr
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Mae’r arwynebedd ar ochr chwith y siâp yn hafal i’r ddwy ran sydd wedi eu tywyllu ar yr ochr dde
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Arwynebedd = 11 x 6 = 66 cm sgwâr, Arwynebedd y chwith a’r dde = 2 x 66 = 132 cm sgwâr
Image caption,
Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd
Cyfanswm yr arwynebedd arwyneb = 230 + 240 + 132 = 602 cm sgwâr
1 of 8
Slide1 of 8, Siâp cyfansawdd yn mesur 11 cm x 20 cm x 4 cm x 6 cm x 15 cm, Arwynebedd arwyneb siâp cyfansawdd I gyfrifo arwynebedd arwyneb y siâp hwn, cychwynna trwy nodi dimensiynau pob arwyneb