Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.
Mae tanc siâp ciwb 6 m yn llawn o ddŵr. Mewn tanc gwag yr un siâp â chiwboid, mae hyd y gwaelod yn 10 m a’i led yn 8 m. Mae’r dŵr yn cael ei symud o un tanc i’r llall. Cyfrifa uchder y dŵr yn y tanc newydd.