Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.
Mesur arall pwysig yw effeithlonrwydd tanwydd, sef, yn y cyd-destun hwn, pa mor bell y gall cerbyd ei deithio ar swm penodol o danwydd.
Mae’n aml yn cael ei fesur mewn milltiroedd y galwyn, sy'n cael ei dalfyrru i MYG fel arfer, er bod milltir/galwyn hefyd yn cael ei ddefnyddio’n aml.
Image caption,
Mae gan danc ceir newydd sy’n garedig tuag at yr amgylchedd gynhwysedd MYG mawr. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu teithio ymhellach ar yr un faint o danwydd. LLUN: Henrik Sorensen
Dyma dair ffurf ar yr hafaliad:
\(\text{effeithlonrwydd tanwydd}=\frac{\text{pellter a deithiwyd}}{\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}}\)
\(\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}=\frac{\text{pellter a deithiwyd}}{\text{effeithlonrwydd tanwydd}}\)
\(\text{pellter a deithiwyd}=\text{effeithlonrwydd tanwydd}\times\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}\)
Weithiau gellir mynegi’r hafaliad effeithlonrwydd tanwydd fel:
Mae Michelle wedi dod o hyd i’r wybodaeth ganlynol am gar hybrid yr hoffai hi ei brynu ond ni all weld faint o betrol mae’r tanc tanwydd yn ei ddal. Cyfrifa gynhwysedd mwyaf posib y tanc.