Perimedr ac arwynebeddArwynebedd trwy gyfrif sgwariau
Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
Arwynebedd siâp yw maint ei arwyneb dau ddimensiwn.
Pan fydd sgwâr yn mesur 1 cm wrth 1 cm, rydyn ni'n dweud bod ganddo arwynebedd o 1 cm2 (centimedr sgwâr).
Mae'r petryal hwn yn cwmpasu 15 sgwâr felly mae ganddo arwynebedd o 15 cm2.
I ddod o hyd i union arwynebedd siâp, cyfra'r sgwariau cyfan a'r hanner sgwariau.
Question
Cyfrifa union arwynebedd y siâp sydd wedi'i dangos ar grid 1cm sgwâr.
11 ½ cm2
Mae yna wyth sgwâr cyfan = 8 cm2 a saith hanner sgwâr = 3 ½ cm2.
Weithiau nid yw'r siâp yn ffitio'n union ar y grid. Gallwn ni amcangyfrif yr arwynebedd trwy gyfrif y sgwariau sydd hanner llawn neu fwy. Marcia bob sgwâr wyt ti wedi'i gynnwys fel na fyddi di'n ei gyfrif dwywaith (ac i ddangos i'r arholwr dy fod wedi cyfrif y sgwariau). Efallai y byddi di hefyd eisiau nodi pob lluosrif deg rhag ofn y byddi di'n colli cyfrif.
Question
Mae'r siâp, wedi'i lunio ar grid sgwâr, yn cynrychioli ynys. Trwy gyfrif sgwariau, amcangyfrifa arwynebedd yr ynys pan fydd pob sgwâr yn cynrychioli 5 m2.
Trwy gyfrif pob sgwâr sy'n hanner neu fwy, gallwn ni weld bod y siâp yn cwmpasu oddeutu 40 sgwâr. Oherwydd bod pob sgwâr yn cynrychioli 5 m2, rydyn ni'n lluosi 40 â 5 i ddod o hyd i arwynebedd yr ynys sef oddeutu 200 m2.