Perimedr ac arwynebeddArwynebedd yn defnyddio fformiwlâu
Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
Mae'r uchder bob amser yn golygu'r pellter perpendicwlarPan fydd yr ongl rhwng dwy linell yn ongl sgwâr, dywedwn fod y llinellau yn berpendicwlar. o sail i frig y triongl.
Question
Mae garddwr eisiau hadu gwely blodau trionglog.
Mae pob pecyn o hadau'n gorchuddio 600 cm2. Sawl pecyn y mae'n rhaid eu prynu?
Arwynebedd = ½ × 130 × 160 = 10,400 cm2
Pecynnau o hadau = 10,400 ÷ 600 = 17.333
Talgrynna'r ateb i ddod o hyd i'r nifer o becynnau sy'n ofynnol, sef 18.
Paralelogram
Paralelogram yw pedrochrSiâp â phedair ochr syth a phedair ongl. â dau bâr o ochrau paralel. Mae'r pâr o ochrau gyferbyn yn hafal eu hyd.