Perimedr ac arwynebeddArwynebedd - fformiwlâu ar gyfer sgwâr a phetryal

Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.

Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Arwynebedd yn defnyddio fformiwlâu ar gyfer sgwâr a phetryal

Ar gyfer rhai siapiau efallai y bydd yn haws cyfrifo eu harwynebedd gan ddefnyddio priodol.

Arwynebedd sgwâr = hyd2

Sgwâr ag un ochr â label 'length' (hyd)

Mae hyn yn golygu hyd × hyd.

O wybod yr arwynebedd, gallwn ni ddod o hyd i hyd sgwâr trwy gyfrifo'r . Symbol ail isradd yw \(\sqrt{}\)

Question

Arwynebedd sgwâr yw 36 m2. Beth yw hyd pob ochr?

Arwynebedd petryal = hyd × lled

Petryal ag un ochr â label ‘width’ (lled) ac un arall â label ‘length’ (hyd)

O wybod yr arwynebedd, gallwn ni rannu â'r hyd i gyfrifo'r lled.

Question

Hyd ystafell betryal yw 5 m a'i lled yw 6 m. Mae un sgwâr carped sy'n mesur 1 m wrth 1 m yn costio £15. Faint fyddai'n costio i garpedu'r ystafell?