Profi dy wybodaeth am strwythur dramatig
Gwylia'r olygfa hon o ddrama S4C a BBC Cymru Wales, Y Gwyll/Hinterland, ateba’r cwestiynau a chymhara dy atebion â’r ateb enghreifftiol.
Question
Ydy’r golygfeydd hyn wedi’u cyfleu mewn ffordd linellol neu anllinellol? Rho reswm am dy ateb.
Mae’r golygfeydd hyn yn cael eu cyfleu mewn ffordd linellol gan fod y stori’n cael ei hadrodd mewn trefn gronolegol a dydy hi ddim yn symud o’r gorffennol i’r dyfodol. Does dim ôl-fflachiadau yn cael eu defnyddio chwaith.
Question
Sut fyddet ti’n newid trefn y gyfres isod o olygfeydd i greu plot anllinellol? Galli di ychwanegu golygfa os wyt ti’n dymuno.
- Golygfa 1: Mathias yn gyrru yn y nos
- Golygfa 2: Mathias yn cerdded drwy'r gors
- Golygfa 3: Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors
- Golygfa 4: Mathias yn rhedeg drwy'r gors
- Golygfa 5: Mathias yn cael ei daro ar ei ben
Byddwn i’n newid trefn gronolegol y golygfeydd ac ychwanegu tair golygfa ôl-fflach:
- Golygfa 1: Mathias yn rhedeg drwy'r gors.
- Golygfa 2: Mathias yn cael ei daro ar ei ben.
- Golygfa 3: Ôl-fflach i Mathias yn gyrru yn y nos.
- Golygfa 4: Ôl-fflach i Mathias yn cerdded drwy'r gors.
- Golygfa 5: Ôl-fflach i Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors.
- Golygfa 6: Torri yn ôl i'r presennol a dangos Mathias yn gorwedd ar y llawr.
Question
Sut caiff tyndra dramatig ei gyfleu yn y gyfres hon o olygfeydd?
Mae’r tyndra dramatig yn adeiladu’n gynnil drwy’r darn. Mae’r gynulleidfa’n teimlo’r tyndra o’r amser mae Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors. Mae'r ffaith ei bod hi'n nos gyda'r tywyllwch yn ei gwneud hi'n anodd iddo weld pwy sy'n ei ddilyn hefyd yn ychwanegu at y tyndra. Gan nad ydy'r gynulleidfa'n gallu gweld y person arall chwaith, mae hyn hefyd yn dwysáu'r teimlad o dyndra a dirgelwch.
Mae’r gerddoriaeth gafodd ei dewis yn helpu i greu’r tyndra yn ogystal. Mae'n adeiladu at uchafbwynt wrth i Mathias redeg ar ôl person drwy'r gors. Mae’r golygfeydd i gyd yn fyr sy’n helpu gyda chyflymder y stori sydd unwaith eto’n ychwanegu at yr awyrgylch anesmwyth mae’r cyfarwyddwr yn amlwg yn ceisio ei greu.
Question
Pam mae tyndra dramatig yn ddyfais mor effeithiol wrth adrodd stori?
Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol wrth adrodd stori gan ei fod yn creu disgwyliadau neu gyffro’r gynulleidfa ynglŷn â chanlyniadau’r digwyddiadau mewn drama. Mae creu’r tyndra yn sicrhau bod y gynulleidfa yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd nesaf ac mae’n rhan bwysig o stori dda.