Strwythur dramaNoson i’w Chofio - strwythur llinellol

Strwythur drama ydy'r drefn mae'r digwyddiadau a’r golygfeydd yn cael eu gosod ynddi. Gall straeon fod â strwythur llinellol neu anllinellol. Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol.

Part ofDramaGwaith sgript

Noson i’w Chofio - strwythur llinellol

Edrycha ar yr enghraifft isod o strwythur llinellol.

  • Golygfa 1: Lleucu’n pasio ei phrawf gyrru ac yn cynllunio dathliad.
  • Golygfa 2: Lleucu yn llawn cyffro cyn mynd i barti pen-blwydd ei chariad.
  • Golygfa 3: Lleucu a’i ffrindiau'n paratoi i fynd allan. Mae hi’n penderfynu mynd â’i char ond ni fydd yn yfed alcohol.
  • Golygfa 4: Golygfa’r parti. Lleucu’n cael ei pherswadio i yfed felly mae ei chariad yn dweud y caiff aros y nos.
  • Golygfa 5: Ffrae gyda’i chariad. Mae Lleucu wedi meddwi ac yn dweud ei bod am yrru adref. Ei ffrindiau’n ceisio ei rhwystro ac yn dweud wrthi am fynd adref gyda nhw ond mae hi’n gadael.
  • Golygfa 6: Damwain. Aelod o’r cyhoedd yn ffonio ambiwlans. Tad ifanc yn cael ei ladd a’i fab yn cael ei anafu’n ddifrifol.
  • Golygfa 7: Lleucu yn yr ysbyty, heb gael ei hanafu. Yr heddlu’n ei harestio am yfed a gyrru ac yn dweud wrth ei theulu a’i chyfeillion am yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Golygfa 8: Golygfa llys barn. Lleucu yn cael dedfryd o garchar.
  • Golygfa 9: Ei ffrindiau yn y dafarn yn siarad am Lleucu - sut y dylen nhw fod wedi ei rhwystro hi.
  • Golygfa 10: Monolog emosiynol gan Lleucu i’r gynulleidfa: ei heuogrwydd a sut y mae’n dyheu am newid pethau.

Dadansoddiad o'r golygfeydd

  • Golygfeydd 1, 2 a 3 ydy dechrau’r Ddrama. Maen nhw’n cyflwyno’r cymeriadau ac yn ein paratoi am yr hyn sydd i ddod.
  • Golygfeydd 4, 5 a 6 ydy canol y stori. Mae’r tyndra’n cynyddu a’r ddrama’n dwysáu ac yn cyrraedd uchafbwynt gyda golygfa’r ddamwain car.
  • Golygfeydd 7, 8 a 9 ydy diwedd y stori. Mae canlyniad y digwyddiadau’n glir. Mae’r dadleniad yn diweddu gyda thrychineb.
  • Y monolog olaf, Golygfa 10, ydy’r tro cyntaf mae’r cymeriad yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa. Mae’n gweithredu fel ac yn atgyfnerthu moeswers y gwaith, ‘Paid ag yfed a gyrru’.