Strwythur dramaNoson i’w Chofio - strwythur anllinellol

Strwythur drama ydy'r drefn mae'r digwyddiadau a’r golygfeydd yn cael eu gosod ynddi. Gall straeon fod â strwythur llinellol neu anllinellol. Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol.

Part ofDramaGwaith sgript

Noson i’w Chofio - strwythur anllinellol

Nawr ystyria'r fersiwn hon o'r un stori gan ddefnyddio strwythur anllinellol.

Noson i’w Chofio

  • Golygfa 1: Rhan gyntaf o fonolog emosiynol gan Lleucu. Mae'n sôn am ei heuogrwydd a sut y mae'n dyheu am newid pethau ond dydyn ni ddim yn gwybod beth mae wedi ei wneud eto. Mae'n ceisio cysgu.
  • Golygfa 2: ôl-fflach: Golygfa’r ddamwain. Lleucu yn rhuthro allan o’r parti ac yn gyrru ei char. Mae hyn yn ailadrodd adeg y gwrthdrawiad, fel hunllef yn ailadrodd, yn nodi’r funud.
  • Golygfa 3: Lleucu’n dihuno’n sydyn o’i hunllef. Mae’n esbonio ei fod yn wir ac yn dyheu am allu newid pethau. Ond mae hi wedi cael yr hyn roedd hi’n ei haeddu.
  • Golygfa 4: Golygfa’r llys. Yr olygfa’n rhewi a ffrind Lleucu’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa gan ddweud ei bod yn teimlo’n gyfrifol ac y dylai hi fod wedi atal Lleucu rhag gyrru’r car. Mae’r ddedfryd yn cael ei chyhoeddi.
  • Golygfa 5: Monolog Lleucu am y bywydau y mae hi wedi’u difetha, gan gynnwys ei bywyd ei hun. Mae’n dymuno gallu mynd yn ôl i newid yr hyn a ddigwyddodd.
  • Golygfa 6: Diwedd golygfa’r ddamwain. Rhywun yn galw ambiwlans a chlywn am farwolaeth y tad ac anafiadau’r mab.
  • Golygfa 7: Monolog Lleucu. Mae’n dweud nad oedd hi erioed wedi bwriadu yfed a gyrru.
  • Golygfa 8: Lleucu yn pasio ei phrawf gyrru ac yn dathlu.
  • Golygfa 9: Lleucu yn ffraeo gyda’i chariad. Mae wedi meddwi ac yn dweud ei bod am yrru adref. Ei ffrindiau’n ceisio ei hatal ac yn dweud wrthi am fynd adref gyda nhw, ond mae’n mynd beth bynnag.
  • Golygfa 10: Y gwrthdrawiad mewn cyfres o ddelweddau llonydd. SFX (effaith sain) drws carchar yn cau.

Dadansoddiad o'r golygfeydd

  • Mae Golygfa 1 yn dechrau gyda diwedd y stori a monolog Lleucu. Mae’r dechneg hon o ddefnyddio siarad yn uniongyrchol yn golygu ein bod ni’n uniaethu â Lleucu a’i gweithredoedd o’r dechrau. Rydym ni’n poeni mwy am y cymeriad o ganlyniad.
  • Caiff ôl-fflach ei ddefnyddio yng Ngolygfa 2 sy’n dweud wrth y gynulleidfa am yr hyn sy’n digwydd i Lleucu. Mae’r monolog yng Ngolygfa 1 wedi paratoi’r gynulleidfa am yr olygfa hon yn effeithiol. Mae’r modd arddulliadol hunllefus y caiff y gwrthdrawiad ei gyfleu yn creu ymdeimlad o synhwyro ofn. Dyma hefyd uchafbwynt y ddrama ond fe ddaw yn gynt yn y stori y tro hwn.
  • Mae Golygfa 3 yn torri’r monolog ac yn cadw cysylltiad rheolaidd â Lleucu. Mae ei hedifeirwch hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o synhwyro ofn o Olygfa 2.
  • Mae Golygfa 4 yn cyfrannu at y syniad craidd o gyfiawnder a moeswers y stori sef ‘Paid ag yfed a gyrru’. Mae defnyddio ffrindiau’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa hefyd yn tynnu sylw at eu cyfrifoldeb nhw.
  • Mae Golygfa 5 yn cadw’r cysylltiad â Lleucu. Ar y pwynt hwn dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn y gwrthdrawiad. Caiff y stori ei datgelu fesul dipyn i gadw diddordeb y gynulleidfa.
  • Mae Golygfa 6 yn datgelu mwy am ganlyniad trasig gweithredoedd Lleucu, sydd unwaith eto’n atgyfnerthu neges allweddol y ddrama.
  • Mae monolog Golygfa 7 yn paratoi’r gyfres nesaf o ôl-fflachiadau ac yn datgelu mwy am Lleucu a sut mae’n teimlo.
  • Ôl-fflachiadau ydy Golygfeydd 8 a 9 ond mae’r rhain mewn trefn linellol er mwyn adeiladu tyndra a chyflymder. Ceir gan ein bod yn gwybod y canlyniad felly rydym ni’n gallu gweld y camgymeriadau mae hi’n eu gwneud. Y golygfeydd hyn yw dechrau a chanol y stori.
  • Ôl-fflach yw Golygfa 10 eto at y gwrthdrawiad rydyn ni wedi ei weld eisoes felly mae hyn yn dangos defnydd effeithiol o ailadrodd sy’n erchylltra’r stori unwaith eto. Mae cyflwyno’r gwrthdrawiad fel delwedd lonydd yn atgyfnerthu’r syniad na fydd y delweddau hyn byth yn pylu. Fel mewn hunllef, mae’r delweddau’n ddigyswllt. Mae hyn hefyd yn gyferbyniad dramatig â’r ffordd mae’n adeiladu’n llinellol yng Ngolygfeydd 8 a 9.