Strwythur dramaDewis strwythur

Strwythur drama ydy'r drefn mae'r digwyddiadau a’r golygfeydd yn cael eu gosod ynddi. Gall straeon fod â strwythur llinellol neu anllinellol. Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol.

Part ofDramaGwaith sgript

Dewis strwythur

Meddylia am linell storïol neu naratif dy ddarn. Oes gen ti un stori neu fwy nag un? Os oes gen ti un naratif clir mae’n debygol y bydd ganddo ddechrau, canol a diwedd. Y gair am ddiwedd y stori sy’n rhedeg yn y drefn hon ydy dadleniad.

Y dadleniad ydy’r funud y mae’r stori yn cyrraedd y canlyniad a chaiff popeth ei ddatrys i’r gynulleidfa. Mewn comedi, bydd y dadleniad yn golygu datrys problem, ond mewn trasiedi mae’r dadleniad yn ‘drychineb’ gyda chanlyniad anhapus i’r prif gymeriadau.

Drama anllinellol

Mae rhedeg golygfeydd mewn trefn yn golygu bod strwythur llinellol gen ti. Mae dy stori’n rhedeg mewn llinell o'r dechrau i’r diwedd. Mae hwn yn strwythur da ar gyfer gwaith , gan adeiladu at uchafbwynt naturiol gyda dadleniad sy’n bodloni’r gynulleidfa.

Drama anllinellol

Dyma ddrama lle nad ydy’r naratif yn rhedeg mewn llinell syth ond yn symud mewn amser. Dyw hi ddim yn gronolegol. Mae drama Tennessee Williams The Glass Menagerie, neu’r addasiad Cymraeg ohoni Pethau Brau, yn enghraifft ragorol o hyn. Mae’r ddrama wedi ei gosod mewn cyfnod sydd rai blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond mae’r cymeriadau’n symud yn ôl a blaen mewn amser i’r 1930au ac yn dychwelyd i’r presennol. Mae hyn yn digwydd heb newidiadau i’r set na’r olygfa. Mae cymeriadau’n ymddangos ar y llwyfan yn achlysurol, nid fel rhan o’r olygfa ond yng ‘nghof’ cymeriad arall.

Ystyria ddefnyddio strwythur anllinellol:

  • os oes mwy nag un naratif yn dy ddarn
  • os byddi di’n creu gwaith Theatr Mewn Addysg
  • os byddi di’n creu gwaith yn arddull Brecht neu unrhyw ymarferwr theatr annaturiolaidd arall
  • os byddi di am greu eironi dramatig (lle mae’r gynulleidfa’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd ond dydy’r cymeriadau ddim)
  • os byddi di am i’r gynulleidfa ddyfalu neu barhau i feddwl am neges drwy’r ddrama
  • os byddi di’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau yn dy waith