Effeithiolrwydd naratif anllinellol
Does dim byd am y naratif wedi newid, ond mae wedi ei dorri’n naratif anllinellol. Mae rhannu’r naratif yn y ffordd hon yn golygu bod y stori’n cael ei datgelu fesul darn fel jig-so i’r gynulleidfa. Mae creu’r gwrthdrawiad car mewn ffordd arddulliedig yn ffordd dda o wneud iddo weithio mewn gofod theatr lle mae’n anodd iawn ei lwyfannu’n naturiolaidd neu’n gredadwy.
Mae monolog Lleucu’n fodd o adrodd y stori ac yn rhoi golwg i ni ar ei theimladau felly rydym ni’n cydymdeimlo mwy â hi. Mae atal y gweithredu ac ychwanegu araith uniongyrchol gan ffrindiau Lleucu yn cadw’r cwestiwn am eu cyfrifoldeb nhw wrth galon y darn.
Mae defnyddio Theatr Gorfforol a dyfeisiau annaturiolaiddUnrhyw fath o theatr lle does dim rhith o realiti ar y llwyfan. Mae'n amlwg bod yr actorion yn cyflwyno syniad neu stori. megis golygfa’r hunllef, rhewi’r ddrama ayyb yn golygu bod yr actorion yn gallu chwarae mwy nag un rôl yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws sefydlu amrywiaeth o leoliadau. Mae defnyddio ôl-fflach yn caniatáu i ni atal anghrediniaethCredu rhywbeth sydd dim yn wir, yn enwedig er mwyn mwynhau ffuglen..
Mae’r strwythur anllinellol wedi creu gwaith mwy episodig ag iddo neges gryfach i’r gynulleidfa, ac mae defnyddio symbolaethDefnyddio gwrthrych neu ddelwedd i gynrychioli rhywbeth arall. Cyfleu syniad mewn modd barddonol/symbolaidd yn hytrach na llythrennol. ac araith uniongyrchol yn ei gryfhau.
Tyndra dramatig
Mae adeiladu’r tyndra yn golygu bod y gynulleidfa yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd nesaf ac mae’n rhan bwysig o stori dda. Wrth ddyfeisio drama rhaid i ti ystyried sut a lle y gallet ti greu tyndra yn dy waith. Gall adeiladu’n araf a chyson at uchafbwynt, sef y darn pwysicaf neu fwyaf cyffrous, fod yn ddefnyddiol wrth greu tyndra. Mae cyswllt agos rhwng tyndra a chyflymder dy berfformiad. Er enghraifft pe bai cyflymder dy waith yn cael ei arafu gan newidiadau golygfa neu wisgoedd lletchwith, gallai ymdeimlad y gynulleidfa o dyndra fynd ar goll. Mae’r ddrama Crash gan Sera Moore Williams yn enghraifft dda o awdur yn gwneud yn siŵr bod tyndra dramatig yn cynyddu’n effeithiol drwy’r darn.
