Strwythur drama ydy'r drefn mae'r digwyddiadau a’r golygfeydd yn cael eu gosod ynddi. Gall straeon fod â strwythur llinellol neu anllinellol. Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol.
Nid cyflymdra dy waith yn unig sy’n bwysig, ond ei rythm hefyd. Mae amrywio’r cyflymder yn sicrhau bod y daith ddramatig yn fwy cyffrous i’r gynulleidfa. Os ydy rhythm a chyflymder dy waith yn aros yr un fath drwyddo, bydd y perfformiad hefyd ar un lefel, heb gyffro. Meddylia am gynyddu’r cyflymder wrth i ti agosáu at yr uchafbwynt.
Yn yr un modd mae cymryd mwy o amser mewn rhai golygfeydd a defnyddio seibiannau dramatig yn gallu creu tyndra a thynnu dy gynulleidfa i mewn. Mae strwythur yn effeithio ar gyflymder hefyd. Bydd llawer o olygfeydd byr wedi eu cysylltu’n gyflym, yn creu taith gyflym, llawn egni i’r gynulleidfa. Ar y llaw arall bydd golygfeydd hirach sy’n adeiladu’n arafach at yr uchafbwynt yn brofiad gwahanol. Cofia ystyried cyflymdra wrth strwythuro dy ddrama ac wrth weithio’n fanwl ar y golygfeydd.
Rhoi cynnig ar bethau
Ffordd dda i arbrofi gyda strwythur dy waith ydy ysgrifennu pob golygfa ac amlinelliad cryno o’i chynnwys ar ddarn o bapur ar wahân. Taena’r papurau o dy flaen a’u haildrefnu nes i ti ddod o hyd i drefn rwyt ti’n teimlo sy’n creu taith ddramatig gyffrous a diddorol drwy dy waith. Rho gynnig ar bethau’n ymarferol i weld sut mae newid y strwythur yn newid effaith dramatig dy waith. Mae adborth yn bwysig iawn ar y lefel hon, neu gallet ti ffilmio’r gwaith a’i wylio’n ôl a dadansoddi effaith y newidiadau strwythurol ar dy waith.