Disgrifio iaith y corffSymudiadau sy’n diffinio cymeriadau

Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Symudiadau sy’n diffinio cymeriadau

Ffurf theatrig a ddechreuodd yn yr Eidal yn yr 16eg ganrif oedd . Mae’n defnyddio cymeriadau stoc neu fathau o gymeriadau, gyda nodweddion penodol yn eu diffinio nhw, yn enwedig symudiadau comedïol. Mae’r syniad hwn o ddefnyddio symudiad sy’n i ddiffinio cymeriad yn gallu bod yn llwyddiannus yn dy waith di hefyd, yn enwedig mewn comedi. Edrycha am ddylanwadau fel y rhain pan fyddi di’n disgrifio symudiadau’r corff mewn cynhyrchiad. Er enghraifft roedd dylanwad commedia dell’arte i’w weld yn amlwg ar gynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre o One Man, Two Guvnors. Darllena Theatr Gorfforol i ddysgu mwy am hyn.

Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr) wedi ei gyfarwyddo gan Giorgio Strehler yn Piccolo Teatro di Milano
Image caption,
Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr) wedi ei gyfarwyddo gan Giorgio Strehler yn Piccolo Teatro di Milano LLUN: Piccolo Teatro di Milano/llun Ciminaghi

Nodweddion corfforol penodol

Mae’n bosib y bydd gan gymeriad cyflawn realistig nodweddion corfforol penodol, sy’n unigryw i’r cymeriad hwnnw. Er enghraifft gallai Mwnci o ddrama Sera Moore Williams, Mwnci ar Dân, wthio ei ddwylo’n ddwfn i’w bocedi a symud o un droed i’r llall i ddangos ei egni a’i anesmwythder.

Mae crafu dy drwyn yn nerfus, taflu dy wallt yn ôl yn falch neu hercio’n amlwg oll yn bethau allet ti eu defnyddio. Meddylia am fathau o gymeriadau ar y llwyfan neu ar y sgrin sy’n gyfarwydd i ti, ac unrhyw nodweddion penodol neu symudiadau sy’n eu diffinio nhw. Sut byddai cymeriad teledu Mr Bean yn wahanol heb fynegiant wyneb ‘rwber’ a symudiadau corfforol trwsgl?