Safle
Mae safle yn cynnwys nifer o elfennau pwysig:
- Mae lefelauGellir creu lefelau trwy gyfrwng safle'r corff, y set neu'r llwyfannu. Maen nhw'n gallu dangos pethau'n digwydd mewn lleoedd neu ar amseroedd gwahanol, a gallan nhw adlewyrchu perthnasau hefyd. yn bwysig iawn, ee os byddi di am ddangos goruchafiaeth, byddi di’n debygol o osod yr unigolyn sydd ag awdurdod ar lefel uwch.
- Mae agosrwydd hefyd yn bwysig oherwydd fel arfer mae llawer mwy o angerdd pan fydd cymeriadau’n agos at ei gilydd.
- Mae pellter hefyd yn dangos pa mor dda mae cymeriadau’n adnabod ei gilydd.
- Dylet ti hefyd ystyried osgo, sef ystum corff yr unigolyn pan fydd yn sefyll neu’n eistedd. Byddai milwr yn sefyll yn syth ond byddai rhywun meddw yn eistedd yn llipa.
- Sut mae’r cymeriadau’n defnyddio eu gofod (ydyn nhw’n cymryd llawer o le er enghraifft).
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos actorion yn y Soho Theatre, Llundain yn actio golygfa o’r ddrama, Fit and Proper People gan Georgia Fitch. Maen nhw’n ymchwilio i effaith iaith y corff, statws a defnydd o’r gofod ar ddealltwriaeth y gynulleidfa o’r berthynas rhwng cymeriadau. Daw’n amlwg y gall iaith y corff newid sut mae golygfa’n cael ei dehongli gan y gynulleidfa yn gyfan gwbl.