Disgrifio iaith y corffDarllen iaith y corff

Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Darllen iaith y corff

Symudiad ydy ystum ond mae symudiadau eraill i’w hystyried hefyd megis rhuthro i mewn a dod at y cymeriad ar y llwyfan, neu guro troed a rhedeg allan ar frys. Gallai’r ddau symudiad hyn fod yn rhan o gymeriad plentyn, gyda’r cyntaf yn mynegi hapusrwydd a’r ail yn cyfleu anfodlonrwydd.

Cofia, os bydd y cymeriad yn hŷn, ni fydd yn symud yn gyflym iawn fel y cyfryw. Ond os bydd yn ifanc ac yn heini, byddai disgwyl i’w symudiadau fod yn gyflymach ac yn fwy ystwyth.

Bydd oedran, rhyw, diwylliant a sefyllfa gymdeithasol yn cyfrannu at iaith y corff. Mewn bywyd go iawn, mae darllen iaith y corff yn rhan bwysig o ddeall arwyddocâd llawn unrhyw sgwrs. Beth mae’r llun isod o ddrama Sherman Cymru, Llwyth, yn ei ddangos i ti am berthynas y tri chymeriad? Sut byddai’r ddeinamig yn newid petai un o’r cymeriadau yn symud ymhellach oddi wrth y ddau arall?

Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Sherman Theatre

Mae ysgwyd llaw’n gadarn yn golygu dy fod yn ymddangos yn hyderus, hyd yn oed os mai esgus wyt ti. Os byddi di’n pwyso ymlaen wrth wrando ar sgwrs, mae’n amlwg bod gen ti ddiddordeb yn y person arall ac yn dymuno creu cysylltiad gydag ef. Mae’r person ifanc yn ei arddegau sy’n eistedd yn llipa yn ei gadair wrth i’r athro ei geryddu yn dangos yn amlwg nad ydy e’n dewis gwrando.

Mae modd ffugio’r arwyddion hyn. Mae’n bosib dy fod yn llawn ofn wrth fynd i gyfweliad am swydd ond mae modd i ti ysgwyd llaw yn gadarn i wneud i ti dy hun edrych yn fwy hyderus ac argyhoeddiadol. Y ydy dy fod yn ffugio pob gair a phob ystum mewn perfformiad wrth i ti greu rôl, ond bod angen i bopeth rwyt ti’n ei wneud ymddangos yn ddilys.

Ysgwyd llaw person arall - arwydd o gyfeillgarwch