Disgrifio iaith y corffMynegiant yr wyneb

Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Mynegiant yr wyneb

Mae’n bwysig cofio bod mynegiant yr wyneb hefyd yn elfen bwysig o iaith y corff.

Wrth werthuso gwaith perfformio, boed yn rhywbeth y byddi di wedi ei weld neu’n rhywbeth y byddi di wedi bod yn ei wneud, mae angen i ti edrych ar bob agwedd sy’n cyfrannu at y perfformiad cyflawn. Mae hyn yn cynnwys disgrifio mynegiant yr wyneb yn fanwl a sut mae hyn yn cyfoethogi’r gwaith.

Y llwyfan a’r sgrin

Mae gwahaniaeth yn y ffordd mae actorion yn defnyddio mynegiant yr wyneb ar y llwyfan ac wrth actio i’r camera. Wrth berfformio mewn awditoriwm mawr mewn theatr mae’n bosibl y bydd llawer o’r gynulleidfa yn bell i ffwrdd. Tasg yr actor ydy cyfleu ei rôl yn effeithiol i lenwi’r gofod. Gall actorion ymdrechu i wneud mynegiant yr wyneb ac iaith y corff yn fwy amlwg, neu hyd yn oed ei or-wneud ychydig, fel bod bwriadau’r cymeriad yn amlwg i bawb.

Mae actio ar gyfer y camera yn wahanol iawn. Mae’r camera’n cofnodi pob fflach yn y llygaid ac unrhyw newid bach yn yr wyneb: mae’n llawer agosach. Caiff hyn ei adlewyrchu yn arddull yr actio a gall mynegiant yr wyneb fod yn fwy cynnil. Gall hyd yn oed newid bach iawn ym mha gyfeiriad mae’r actor yn edrych fod yn arwydd o newid meddwl. Mae rhai o’r actorion teledu a ffilm gorau yn ‘gwneud’ ychydig iawn.

5 eicon i arddangos gwahanol emosiynau: Hapus, Trist, Dig, Syndod, Penbleth