Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.
Mae ystum yn rhan bwysig iawn o gyfrwng drama. Fel arfer mae’n cael ei gynnwys gyda symudiad a meim. Yr ystumiau mwyaf arwyddocaol fel arfer ydy ystumiau’r dwylo. Mae’n bosibl mai un o’r ystumiau mwyaf cyfarwydd ydy’r bys ceryddol sy’n ysgwyd yn ôl a blaen gyda geiriau fel ‘Rydw i wedi dweud dro ar ôl tro fod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol’. Mae’r ystumiau’n gweithio drwy bwysleisio’r geiriau.
Ond mae modd eu defnyddio i bwysleisio cwestiwn, fel arwyddo i gyfeiriad penodol wrth i ti ofyn ‘Ydych chi’n golygu y ffordd hon?’
Gallan nhw gyfleu agwedd hefyd, fel codi’r ysgwyddau i fynegi difaterwch.
Ystum mwy cynnil fyddai sefyll gyda dy freichiau ar led, fel pe baet ti am gofleidio rhywun, ond gan ddefnyddio’r ystum i gynnwys nifer fawr o bobl a dweud ‘Croeso!’ Beth mae iaith y corff yn y ddelwedd o’r ddrama Llwyth gan Sherman Cymru yn ei ddweud wrthot ti?
Image caption,
Simon Watts yn chwarae rhan Aneurin yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Farrows Creative/Sherman Cymru/Theatr Genedlaethol Cymru