Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos ymarferion ar gyfer golygfa o ddrama Shakespeare, Julius Caesar. Sylwa ar y ffordd mae’r cyfarwyddwr cyswllt yn rhoi cyfarwyddyd penodol i’r actorion ar iaith y corff i gyfoethogi’r stori. Cofia fod is-destunYr ystyr y tu ôl i beth sy'n cael ei wneud neu ei ddweud. Teimladau gwirioneddol cymeriad - teimladau nad ydy’r cymeriad o reidrwydd yn eu dangos na'u mynegi wrth gymeriad arall. yn bwysig yma unwaith eto, gydag iaith y corff a mynegiant yr wyneb yn gallu datgelu gwir fwriad y cymeriad i’r gynulleidfa.