Diffodd y Sêr gan Haf LlewelynDelweddaeth

Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y Sêr. Mae ei deulu a’i ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy’n delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Delweddaeth

Mae gan Diffodd y Sêr symbolaeth gref yn llifo trwyddi. Y brif un yw’r sêr. Maen nhw'n symbol o’r ffaith nad yw dyn yn gallu newid pethau. Mae sawl cyfeiriad at y ffaith nad yw Anni’n gallu gweld y sêr er eu bod nhw yno drwy’r amser.

Fedar neb ddiffodd y sêr. Neb.

Mi es inna’n ôl i ’ngwely wedyn, ac agor mymryn ar y llenni i mi gael cip ar y sêr, ond mae’n rhaid ’mod i wedi cysgu, achos welais i’r un.

Dwi’n edrych i fyny, ond mae’r sêr i gyd wedi’u diffodd.

Mae hefyd yn ddarlun rhamantus oherwydd gall Ellis, sydd ymhell oddi cartref, weld y sêr hefyd. Er eu bod nhw’n bell oddi wrth ei gilydd maen nhw’n gweld yr un peth.

Edrych,” meddai Ellis, “edrych ar y sêr... fedar neb na dim heblaw am y wawr ddiffodd y sêr, sti, a phan mae’r wawr yn dod, mae pob dim yn edrych yn well wedyn, yn tydi? Pan fydda i yn Litherland, ac os bydd yn rhaid i mi fynd i’r ffosydd, Anni, dwi am i ti edrych ar y sêr, ac mi wna inna ’run fath, yli. Dwi am i ti gofio beth ddywedais i wrthat ti heno. Fedar neb ddiffodd y sêr. Neb.

Mae adar yn symbol arall rydyn ni’n ei weld dro ar ôl tro yn y nofel. Mae defnyddio adar yn dechneg boblogaidd i ddelweddu marwolaeth a phethau tywyll, sinistr.

Dwi’n cofio i mi weld brân unwaith, wedi brifo’i hadain, yn mynd yn sownd yn y cae bach lle mae’r ieir. Un aderyn dieithr yng nghanol byddin o ieir. Doedd y frân ddim yn perthyn. Fu’r ieir ddim yn hir efo’r frân – yn ei phigo a’i phluo’n fyw, nes nad oedd dim ar ôl ond corff gwaedlyd, llonydd wrth ymyl y cut ieir.

uwch fy mhen gallwn glywed sŵn cwyno dau hen fwncath. Gwelais y ddau aderyn yn cylchu, rownd a rownd, yn nesáu at eu hysglyfaeth. Dechreuais grynu yno yng nghanol gwres mis Awst wrth i gysgod eu hadenydd anferth ddod rhyngof i a’r haul.

Mae’r ail ddyfyniad yn cael ei ddweud ychydig cyn i’r llythyr sy’n dweud fod Ellis wedi marw yn cyrraedd.