Diffodd y Sêr gan Haf LlewelynLlinell amser y nofel

Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y Sêr. Mae ei deulu a’i ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy’n delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Llinell amser y nofel

Os rhanni di'r nofel yn ddwy brif stori, sef stori Ellis a stori pobl Trawsfynydd, galli di ei dilyn yn well.

Stori Ellis

Llinell amser o ddarluniau i arddangos manylion stori Ellis yn 'Diffodd y Sêr'.
  1. Mae Ellis yn penderfynu ‘enlistio’ i ymuno â’r fyddin ac yn gorfod sefyll prawf meddygol i wneud yn siŵr ei fod yn ddigon ‘ffit’ i fynd i’r gwersyll hyfforddi yn Litherland.
  2. Mae Ellis yn mynd i’r gwersyll hyfforddi i’w baratoi ar gyfer mynd i’r rhyfel.
  3. Mae Ellis yn treulio pythefnos adref yn Yr Ysgwrn yn ffermio. Yn ystod yr amser hwn mae’n ceisio cwblhau ei awdl Yr Arwr.
  4. Ym mis Gorffennaf 1917, mae Ellis yn gadael Trawsfynydd ac yn hwylio o Southampton i Ffrainc. Mae’n mynd i Ypres ac yn mynd i frwydr yno.
  5. Mae Ellis yn cael ei ladd yn y frwydr.
  6. Mae Ellis yn ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym mis Awst 1917 dan y ffug enw Fleur-de-lis.

Stori pobl Trawsfynydd

Llinell amser o ddarluniau i arddangos manylion stori pobl Trawsfynydd yn 'Diffodd y Sêr'.
  1. Mae tad Lora yn dychwelyd o’r rhyfel wedi ei glwyfo’n ddrwg.
  2. Mae Lora yn cyfarfod Hywel ac mae eu perthynas yn datblygu.
  3. Mae Citi yn gwahardd Lora rhag gweld Hywel eto.
  4. Mae’r teulu yn cael deall bod Ellis wedi cwblhau ei awdl a’i fod ef wedi ei hanfon at bwyllgor yr Eisteddfod.
  5. Mae mam Hywel yn chwilio am Lora ac yn dweud mai Gruff yw tad Hywel.
  6. Mae’r teulu yn derbyn llythyr sy’n cadarnhau marwolaeth Ellis.
  7. Mae Hywel a Lora yn priodi.