Diffodd y Sêr gan Haf LlewelynBarddoniaeth yn y nofel

Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y Sêr. Mae ei deulu a’i ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy’n delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Barddoniaeth yn y nofel

Mae’r dyfyniad hwn yn ymddangos ar ddechrau’r nofel:

Nid oes gennym hawl ar y sêr, / Na’r lleuad hiraethus chwaith...

Mae’n dod o’r gerdd Y Blotyn Du gan Hedd Wyn.

Ystyr y dyfyniad yn fan hyn yw dweud nad yw dyn yn gallu rheoli na newid rhai pethau, yn enwedig byd natur. Mae’r cyfeiriadau at y lleuad a’r sêr yn cysylltu â theitl y nofel, Diffodd y Sêr. Maen nhw’n bethau naturiol sydd yno drwy’r amser er nad ydyn ni’n gallu eu gweld nhw.

Mae cwpwl o gerddi eraill yn cael eu cynnwys yn y nofel ac mae’r ddwy at gariad Ellis, Jini. Gwenfron a Mi yw un a Pennill Jini yw’r llall. Roedd Gwenfron a Mi yn y llythyr olaf anfonodd ef at Jini ac mae’n sôn am dyfu’n hen gyda 'Gwenfron'. Ar ôl darganfod y llythyr o dan y bwrdd, mae Anni yn dweud am y gerdd a’i chynnwys: ... dyna oedd breuddwyd Ellis – cyfarfod rhywun, Jini ella, syrthio mewn cariad a chael cyfle i fyw, magu teulu, barddoni tipyn, a chael heneiddio gyda’i gilydd yn y diwedd.

Derbyniodd y teulu'r llythyr sy’n cynnwys Pennill Jini ar ddiwedd y stori. Roedd ei deulu wrth eu boddau am eu bod wedi derbyn y llythyr, a’r gerdd, a oedd yn sôn am fywyd ar ôl y rhyfel - A phan êl y rhyfel heibio - ond roedd Ellis eisoes wedi marw.