Digwyddiadau allweddol
Enlistio
Yn yr ail bennod mae Ellis yn dweud ei fod ef am ymuno â’r fyddin. Cyn hyn mae Gwen Jones – gwraig o’r pentref – wedi bod yn beirniadu bechgyn ifanc, iach
sydd heb wneud hyd yma. Y weithred hon sy’n selio tyngedFfawd; grym sy’n penderfynu beth sy’n digwydd i berson. Ellis.
Hywel a Lora yn cyfarfod
Stori Hywel a Lora yw’r brif stori garu yn y nofel. Mae’r ddau yn gorfod wynebu sawl rhwystr, fel gwrthwynebiad Dodo Citi i’w perthynas, cyn priodi ar ddiwedd y nofel.
Gadael Trawsfynydd
Ar ôl hyfforddi yn Lerpwl am rai wythnosau mae Ellis yn dychwelyd adref. Yn ystod yr adeg hon rydyn ni’n cael blas ar y cyfnod ac ar fywyd cefn gwlad yn ystod y rhyfel. Mae Ellis a Jini Owen yn sefydlu carwriaeth ac mae Ellis yn barddoni tra mae ef adref. Ym mhennod 14 mae Anni’n darganfod pennill o waith Ellis o dan y bwrdd. Dyma ddyfyniad o’r gerdd Gwenfron a Mi.
Mae Anni yn credu mai sôn am freuddwyd Ellis i fyw a magu teulu gyda Jini mae’r gerdd.
Dysgu mai Gruff yw tad Hywel
Daw mam Hywel, y wraig ddieithr
, i Drawsfynydd i chwilio am Ifor (tad Lora) am mai ef oedd un o’r bobl olaf i i weld Gruff Wmffra, ei gŵr, ym mrwydr Mametz. Mae hi’n dychryn wrth weld clwyfau wyneb Ifor ac yn gadael yn sydyn. Ymhen hir a hwyr, mae Ifor yn sylweddoli mai mab Gruff yw Hywel. Mae’r digwyddiad hwn yn drobwynt ym mherthynas Hywel â theulu Lora. Cyn hyn nid yw Citi ac Ifor wedi bod yn groesawus i garwriaeth Hywel a Lora, ond yn dilyn darganfod pwy yw tad Hywel maen nhw’n llawer iawn mwy croesawus.
Marwolaeth Ellis
Nes ymlaen mae teulu Ellis yn darllen y papur newydd ac yn deall bod brwydr fawr wedi digwydd ar 30 Gprffennaf lle cafodd llawer iawn o filwyr eu lladd. Mewn llythyr roedd Ellis wedi disgrifio'r frwydr roedd e ynddi, ond heb ddweud yn lle'r oedd ef, a dywedodd hefyd ei fod wedi gorffen ei awdl a’i hanfon i’r Eisteddfod. Dyma’r tro olaf i’r teulu glywed ganddo ac roedd hynny cyn 30 Gorffennaf. Mae’r teulu yn cael cadarnhadY weithred o brofi rhywbeth i fod yn wir neu’n ffaith. o farwolaeth Ellis pan ddaw negesydd at y tŷ gydag amlen yn cynnwys newyddion drwg.
Ennill y gadair
Daw’r cyhoeddiad ei fod ef wedi ennill y gadair ar ôl i Ellis farw. Mae hyn yn gwneud y stori yn fwy trist gan mai ennill y gadair oedd un o freuddwydion Ellis a ni chafodd fyw i weld gwireddu'r freuddwyd honno.
Priodas Hywel a Lora
Mae’r nofel yn gorffen ar nodyn hapus ym mhriodas Hywel a Lora. Yn anrheg i’r cwpwl mae Anni’n rhoi un o gerddi Ellis, Gwenfron a Mi.