Themâu
Effaith y rhyfel
Mae effaith y rhyfel yn gadael ei farc ar bobl ac ar gymdeithas. Yn Diffodd y Sêr, Ellis sy’n cynrychioli hyn. Mae e’n marw fel y gwnaeth cannoedd o ddynion a bechgyn eraill yn ystod y Rhyfel Mawr: Mae yna gymaint o fechgyn yr ardal wedi bod yn y front line ac yn dal yno yn rhywle o dan y pridd.
Mae Anni yn gweld hyn yn wastraff ar fywyd ac mae’r ffaith nad yw teuluoedd y bechgyn yn gwybod a ydyn nhw yn fyw neu’n farw yn boen mawr ar y gymdeithas.
Roedd y rhyfel hefyd yn cael effaith seicolegol ar y milwyr hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddod adref, er enghraifft y dyn o Blaenau rydyn ni’n clywed amdano sy’n mynd allan i’r stryd yn ystod y nos ac yn gweiddi. Mae Lora yn dweud yr hanes: ...maen nhw’n cael eu deffro ganddo fo’n gweiddi, ‘Over the top lads... over the top...’ o hyd. Wedyn, pan mae ei wraig o’n medru ei gael o yn ei ôl i’r tŷ, mae o’n mynd i guddio yn y gornel tu ôl i’r cloc efo’i ddwylo dros ei ben.
Mae Gwen Jones yn sôn am dad Huw Rhos a wnaeth saethu ei hun yn ei droed iddo gael dod adref o’r rhyfel hefyd.
Mae’r rhyfel yn cael effaith gorfforol hefyd, mae hyn i’w weld yn anafiadau’r bechgyn sy’n dychwelydDod yn ôl o rywle. o maes y gadMan lle mae brwydr wedi cael ei hymladd neu’n cael ei hymladd.. Mae gan Ifor anaf difrifol i’w wyneb ar ôl cael ei saethu. Nid yw’n gallu yfed, bwyta na siarad yn iawn o’r herwydd. Mae ef wedi colli rhan fawr o’i wyneb ac mae e’n codi ofn ar ei fab, Jim.
Mae Anni hefyd yn ymwybodol o anafiadau dynion eraill nad oedd hi’n eu hadnabod: Mi wyddwn i hefyd am ddynion yn dod yn ôl yn fethedig, heb goesau, ac yn medru gwneud dim heblaw eistedd yn edrych ar y tân trwy’r dydd.
Newid
Un o brif effeithiau’r rhyfel oedd y newid a ddaeth gydag ef - newid mewn pobl a chymdeithas.
Yn ystod y stori rydyn ni’n gweld newid mawr yn rhai o’r prif gymeriadau. Mae Anni yn un o’r rhai amlycaf. Mae hi’n aeddfedu wrth i’r stori fynd yn ei blaen oherwydd ei bod hi’n llacio ei gafael ar yr arferion ofergoelusCredu mewn arfer wedi’i selio ar ofn ac anwybodaeth. yr oedd hi’n eu credu ar ddechrau’r nofel:
- codi carreg wen oddi ar y llawr rhag ofn i rywbeth anlwcus ddigwydd
- yr hances les a gafodd hi gan Ellis
- cysylltiad rhwng dwyn y bag a pherthynas Hywel a Lora yn datblygu
Rydyn ni’n gweld newid mawr yn Dodo Citi hefyd. Ar ddechrau’r stori mae Anni yn ei darlunio hi fel person annwyl, amyneddgar ac addfwyn gan ddweud: Doeddwn i’n adnabod neb efo amynedd fel Dodo Citi. Fyddai hi byth yn dwrdio, byth yn colli ei thymer nac yn codi ei llais.
Ond wrth i’r stori ddatblygu mae ei hamynedd yn lleihau oherwydd ei hamgylchiadau:
- Mae Ifor ei gŵr wedi ei anafu’n ddifrifol ac angen help i fwyta ac i yfed. Mae Jim, ei mab hi ac Ifor, ofn ei dad oherwydd bod ei dad wedi colli rhan o’i wyneb yn y rhyfel. Nid yw’n hapus am berthynas Lora a Hywel.
- Ond mae Dodo Citi yn dod yn ôl at ei hun erbyn diwedd y nofel. Mae’r holl straen y mae hi wedi ei ddioddef yn dod allan mewn pwl mawr o chwerthin.
- Mae Wil Ffurat hefyd yn newid o fod yn berson ansensitif a chas (yn enwedig gyda Lora) i gymeriad sy’n llawer mwy dymunol. Roedd ef wedi
colli’r onglau miniog, wedi meddalu
, yn ôl Anni.