Hanes teulu y bardd Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Diffodd y Sêr. Mae ei deulu a’i ffrindiau yn gymeriadau gwahanol iawn sy’n delio ag effaith y rhyfel mewn ffyrdd gwahanol iawn.
Mae crefydd yn rhywbeth pwysig yn y nofel ac roedd Cristnogaeth yn rhan fawr o fywyd pobl Trawsfynydd (a Chymru yn gyffredinol) yn y cyfnod hwn. Nid dim ond ar ddydd Sul yr oedd crefydd yn bwysig, roedd yn rhan gymdeithasol o’u bywydau yn ystod yr wythnos hefyd.
Band of Hope
Roedd y Band of Hope yn digwydd yn ystod yr wythnos. Yn y cyfarfod, roedd plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu mwy am straeon y Beibl, am ddrygioni ac am sut i ymddwyn yn dda. Roedd hefyd yn lle da i gyfarfod pobl eraill. Yn y stori mae Ifan, brawd Anni, yn cael cariad yno ac mae’n un o’r lleoedd mae Lora a Hywel yn dod i adnabod ei gilydd yn well.
Gweddïo
Bydd Anni yn troi at Dduw ac yn gweddïo pan fydd rhyw broblem yn ei phoeni hi.
Y Beibl
Mae’r Beibl yn rhan ganolog o’r cartref. Yn y stori mae llawer o bethau yn cael eu cadw yn y Beibl, er enghraifft llythyrau, papurau pwysig sy’n ymwneud â’r teulu a cherddi.
Cadw’r Sul
Roedd ‘cadw’r Sul’ yn bwysig iawn ers talwm. Roedd yn golygu nad oedd neb yn gweithio ar ddydd Sul.
Dyfyniadau am grefydd
Mae siarad efo Duw ychydig ’run fath â siarad efo chwaer fach ... Gei di’r farblen yna gen i os ei di i ’nôl dŵr yn fy lle i. Ffeirio – dyna sut mae siarad efo Duw yn gweithio.
Mae pawb yn rhy brysur yn gweddïo, yn gweddïo am eu pryderon bach cyfrin ac yn trio gwneud bargeinion efo Duw. Lle felly ydi Trawsfynydd ar ddydd Sul.
Os ydi Duw mor ffeind, pam ei fod o’n gadael i Ellis ni fynd i ryfel? A pham ei fod o wedi gorfodi Dewyrth Ifor i ddod adra heb hanner ei wyneb?