Datblygu cymeriadauChwilio am ysbrydoliaeth

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part ofDramaGwaith sgript

Chwilio am ysbrydoliaeth

Simon Watts yn chwarae rhan Aneurin yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Simon Watts yn chwarae rhan Aneurin yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Farrows Creative/Sherman Cymru/Theatr Genedlaethol Cymru

Ydy’r cymeriad yn debyg i rywun rwyt ti’n ei adnabod neu wyt ti’n gallu cael ysbrydoliaeth o rywle arall? Os oes actorion eraill wedi chwarae rôl debyg, edrycha’n ofalus ar sut aethon nhw ati. Mae’n syniad da cael gweledigaeth glir yn dy feddwl o’r hyn rwyt ti am ei gyflawni. Ambell waith mae hyd yn oed llun o sut wyt ti’n meddwl mae’r cymeriad yn edrych yn gallu helpu.

Cymhellion ac amcanion y cymeriad

Cymhelliad dy gymeriad ydy’r hyn sy’n ei yrru neu’r hyn yr hoffai ei gyflawni. Er enghraifft, gallai cymeriad ymddwyn mewn ffordd blentynnaidd neu ddadleugar ond y cymhelliad cyffredinol ydy cael sylw. Wrth ddatblygu cymeriad dylet ti ystyried beth ydy cymhelliad y cymeriad hwnnw ym mhob golygfa. Oes un elfen gyffredinol yn gyrru’r cymeriad? Os felly beth ydy ei amcanion drwy’r gwaith? Meddylia sut mae’n ymddwyn er mwyn cael yr hyn mae’n ei ddymuno. Bydd deall dy gymhelliad yn dda ar bob pwynt yn dy helpu i ganfod sut i ddefnyddio dy lais a dy gorff i gyfleu dy gymeriad yn effeithiol ynghyd â thaith y cymeriad drwy’r ddrama.

O fewn golygfa gall y cymeriad fod â nifer o nodau llai, sy’n cael eu galw’n amcanion. I wneud hyn yn iawn bydd angen i ti wneud ychydig o ymchwil i’r cefndir, megis darllen y ddrama, neu darllen am gefndir dy gymeriad os byddi di’n perfformio darn dyfeisiedig.

Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos aelodau o dîm cynhyrchu Doctor Who yn trafod cymeriadaeth yn y gyfres.