Datblygu cymeriadauCymhellion ac amcanion cymeriad

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part ofDramaGwaith sgript

Cymhellion ac amcanion cymeriad

Question

Does gan Mari ddim arian ac mae am i’w mam roi peth iddi. Ei chymhelliad ydy perswadio ei mam i roi digon o arian iddi allu mynd allan gyda’i ffrindiau. Beth wyt ti’n meddwl ydy ei hamcanion ym mhob araith?

Amcan A

Hoffet ti baned o de Mam? Sori os ydw i’n swnio’n flin, ond dwi’n teimlo braidd yn ddiflas. Mae pawb arall yn mynd allan heno. Mae’n noson arbennig iawn a fedra i ddim fforddio mynd. Mae’n anodd achos mae pawb arall yn cael llawer mwy o arian poced na fi. Sai’n cwyno, rwy’n gwybod mod i’n lwcus. Rwy jest yn teimlo mod i’n siomi fy ffrind ar ei phen-blwydd…

Amcan B

Sai’n gallu credu bo ti’n gwrthod rhoi arian i mi! Wyt ti’n gwybod pa mor bwysig ydy heno? O paid â bod mor fên Mam. Plîs. Nei di fenthyg yr arian i mi Mam? Fydda i’n ddiflas drwy’r nos os na wnei di. Plîs Mam. Fe wnaf i’r gwaith tŷ fory. Plîs Mam paid â bod yn fên. Plîs menthyca’r arian i fi…

Amcan C

Wyt ti’n mynd allan nes ‘mlaen? Dwi jest yn gofyn achos est ti allan neithiwr Mam, ond do? Weles i ti … a phwy oedd gyda ti. Ai ffrog newydd oedd gen ti? Neis. Ydy Dad yn gwybod bo ti wedi ei phrynu hi? O, bydd e’n neis, a dweud y gwir, i gael noson mewn gyda Dad. Pryd fydd e gartre? Wrth gwrs, gallen i fynd allan, os byddet ti’n rhoi arian i mi…