Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Dadansodda dy arferion dy hun a dy ffyrdd dy hun o symud. Gwna’r ymarferion canlynol i dy helpu.
Pwysau
Cerdda o gwmpas yr ystafell i bob cyfeiriad. Cyflyma ac arafa. Meddylia am dy bwysau ar y llawr. Dydy hyn yn ddim byd i’w wneud â faint rwyt ti’n ei bwyso, ond yn hytrach pa mor drwm neu benderfynol ydy dy gamau. Mae rhai pobl fawr yn gallu bod yn ysgafn iawn ar eu traed, ac i’r gwrthwyneb. Faint o egni a phwysau wyt ti’n eu rhoi yn dy gamau?
Gofod
Meddylia am y gofod rwyt ti’n ei ddefnyddio. Does gan hyn ddim i’w wneud â dy faint corfforol ond yn hytrach â faint o le sydd ei angen arnat ti a faint o reolaeth sydd gen ti dros dy gorff. Mae rhai pobl yn cadw eu breichiau’n dynn wrth eu corff, ond mae eraill yn eu symud llawer ac efallai eu bod yn symud o ochr i ochr wrth gerdded. Gall pobl allblyg fod angen mwy o le na’u ffrindiau menblyg. Beth wyt ti’n ei wneud?