Datblygu cymeriadauYmlacio a rhyddhau tyndra

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part ofDramaGwaith sgript

Ymlacio a rhyddhau tyndra

Mae hyn yn dy helpu i ryddhau tyndra ac i ganfod cyflwr o niwtraliaeth sy’n fan cychwyn i greu cymeriad ohono. Bydd hefyd yn helpu gyda gwaith anadlu a chynhyrchu llais.

Gorwedda ar dy gefn, gan wneud yn siŵr dy fod yn syth. Dylet ti orwedd naill ai gyda dy freichiau wrth dy ochr neu gyda dy ddwylo’n gorwedd yn ysgafn ar dy stumog. Cau dy lygaid ond canolbwyntia. Bydda’n ymwybodol o dy anadlu dy hun ond paid â’i newid na’i orfodi. Teimla dy gorff yn codi a disgyn wrth i ti anadlu allan ac yn ôl i mewn. Cymera dy amser.

Nawr yn dy feddwl canolbwyntia ar dy draed, fesul un. Does dim rhaid i ti eu symud, dim ond bod yn ymwybodol ohonyn nhw. Ceisia eu hymlacio a rhyddhau unrhyw dyndra rwyt ti’n ei ddal yn dy draed neu yn dy figyrnau. Os wyt ti’n teimlo eu bod yn dynn, ceisia wasgu’r cyhyrau ac yna eu rhyddhau unwaith neu ddwy er mwyn iddyn nhw deimlo’n fwy llac a thrwm. Ceisia ryddhau. Yn araf, fesul tipyn, symuda’r ffocws i fyny dy gorff, gan barhau i fod yn ymwybodol o unrhyw dyndra rwyt ti’n ei ddal ar hyd y ffordd. Dylet ti dalu sylw penodol i ysgwyddau, gwddf a genau gan fod y rhain yn aml yn ardaloedd lle ceir cryn dyndra.

Gad i bopeth ryddhau a theimla dy hun yn suddo’n drwm i’r llawr. Dychmyga dy ben yn symud i fyny ac i ffwrdd oddi wrth dy draed fel bod dy wddf yn mynd yn hirach a dy gorff cyfan yn lledu. Yr allwedd ydy peidio ag ymdrechu, ond rhyddhau’r tyndra fesul tipyn. Pan fyddi di’n teimlo dy fod wedi ymlacio’n llwyr, rholia ar un ochr a choda gan sefyll yn syth. Symuda o gwmpas yn araf yn y cyflwr niwtral hwn. Byddi di’n edrych ac yn teimlo’n dalach!

Darlun i gynrychioli 'Cadair Boeth', o ddyn yn chwysu, yn eistedd ar gadair ar dân

Techneg ymarfer neu strategaeth ymchwiliol ydy cadair boeth i ddarganfod mwy am gymeriad. Mae’r actor yn cael ei holi yn ei rôl a’i orfodi i feddwl am agweddau ar fywyd neu bersonoliaeth y cymeriad nad ydyn nhw yn y sgript o bosibl. Mae’n helpu actor i ddod i adnabod y cymeriad mae’n ei chwarae a gall arwain at syniadau newydd i ymchwilio iddyn nhw yn ystod yr ymarfer. Darllena Strategaethau ymchwiliol i ddysgu mwy.

Mae’r clip Saesneg hwn o gynhyrchiad y National Theatre yn dangos yr actor Daniel Rigby yn gwneud ymarfer cadair boeth