Datblygu cymeriadauGwaith byrfyfyr a gweld dy gymeriad
Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Rho gynnig ar gwaith byrfyfyrDyfeisio, neu greu gwaith wrth i ti fynd yn dy flaen. yn dy rôl mewn amrywiaeth o senarios gwahanol. Os byddi di’n defnyddio sgript, dewisa leoliadau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’r ddrama. Dysga sut mae dy gymeriad yn ymateb mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol. Arbrofa, gan ddadansoddi drwy’r amser pa ymatebion, symudiadau, ystumiau a nodweddion lleisiol sy’n gweithio i ti.
Gweld dy gymeriad
Mae hon yn dechneg ddefnyddiol. Dylet sefyll gyda dy lygaid ar gau a ‘gweld’ y person rwyt ti’n ei chwarae o dy flaen. Dychmyga’r cymeriad yn dy feddwl. Edrycha ar y ffordd mae’n sefyll, y mynegiant ar ei wyneb, unrhyw ystumiau, beth mae’n ei wisgo. Dychmyga glywed y cymeriad yn siarad. Pan fydd gen ti ddelwedd glir o dy gymeriad cymer gam ymlaen a ‘droi’ dy hun i’r hyn rwyt ti wedi ei ddychmygu.
Dy gymeriad fel anifail
Pe bai dy gymeriad di’n anifail neu’n aderyn, beth fyddai? Arbrofa gyda nodweddion anifail yn dy gorff a dy lais. Ceisia fod 100% yn anifail ac yna newid yn ôl yn raddol i fod yn berson, gyda 10% o’r anifail yn bresennol yn dy actio. Efallai y gwnei di ganfod ystumiau a nodweddion sy’n gweithio’n dda ac y gallet ti eu cynnwys wrth gymeriadu.