Datblygu cymeriadauSymud mewn amser

Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.

Part ofDramaGwaith sgript

Symud mewn amser

Darluniad o ferch yn pwyso ymlaen o flaen hanner wyneb cloc, gyda Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol wedi eu labelu

Mae hyn yn ymdrin ag amser, nid dy gyflymder naturiol di wrth symud, er bod angen i ti fod yn ymwybodol o hyn. Dadansodda a wyt ti’n unionsyth (yn y presennol), a wyt ti’n gwyro’n ôl ychydig (yn y gorffennol) neu’n pwyso ymlaen (tuag at y dyfodol).

Mae ongl ein cerddediad yn cyfleu llawer yn ddi-eiriau. Mae pobl y ‘presennol’ yn tueddu i fod yn byw yn y presennol ac yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas. Gallai gwyro’n ôl i’r gorffennol ddangos dy fod yn dal rhywbeth yn ôl neu fod rhywfaint o ymwahanu oddi wrth ddigwyddiadau ac emosiynau. Mae person sy’n pwyso ymlaen yn tueddu i fod yn fywiog ac yn benderfynol ond efallai nad ydy bob amser yn canolbwyntio ar y sefyllfa bresennol.

Nawr meddylia am y cymeriad rwyt ti’n ei ddatblygu. Ydy’r cymeriad yn wahanol i ti yn nhermau pwysau, gofod neu amser? Efallai y dylai fod yn ysgafndroed iawn gan bwyso ymlaen, tra dy fod ti’n tueddu i fod yn arafach a dal yn ôl.

Arbrofa gyda ffyrdd gwahanol o ddefnyddio pwysau, gofod ac amser. Bydd y rhain yn teimlo’n ddieithr i ti ar y dechrau, ond bydd dadansoddi symudiad yn fanwl fel hyn ac arbrofi yn dy helpu i ganfod osgo corfforol sy’n briodol i dy gymeriad.