Cyfartaleddau ac amrediadCymharu dwy set o ddata: mesur gwasgariad

Mae cyfartaleddau’n rhoi gwybodaeth i ni am set o ddata rhifiadol, yn rhoi gorolwg o’r gwerthoedd a dweud wrthyn ni beth yw’r canlyniad mwyaf cyffredin. Mae’r amrediad yn fesur o wasgariad y data.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Cymharu dwy set o ddata gan ddefnyddio mesur gwasgariad

Weithiau bydd gofyn i ni gymharu dwy set o ddata gan ddefnyddio mesur canolduedd ac wrth ystyried y data, sy’n nodi’r mesur gwasgariad.

Question

Mae Alastair a Julie yn cymharu eu canlyniadau yn yr arholiadau Gwyddoniaeth modiwlaidd.

Tabl yn dangos canlyniadau Alastair a Julie yn unedau 1 to 5 yr arholiad Gwyddoniaeth modiwlaidd

Gan ddefnyddio’r cymedr a’r amrediad, cymhara eu perfformiad.

Question

Mae dau ddisgybl yn ymarfer ar gyfer ras wib dros 100m. Dyma’r amseroedd yn eu hymarferion (mae pob un o’r amseroedd mewn eiliadau);

Disgybl A: 20, 19, 22, 18, 20, 21, 18, 35

Disgybl B: 18, 19, 18, 21, 21, 21, 23, 22

Gan ddefnyddio’r canolrif a’r amrediad, cymhara’r ddwy set hyn o ddata.