Amrediad a chanolrif
Mae’n hawdd iawn cyfrifo amrediad set o ddata trwy dynnu’r gwerth lleiaf o’r un mwyaf.
Er enghraifft, gyda’r data canlynol:
3, 5, 7, 8, 9, 13, 15
Yr amrediad yw 15 - 3 = 12.
Mae amrediad yn bwysig i ni gan ei fod yn dweud rhywbeth wrthyn ni am wasgariad y data a phan fydd gennyn ni grwpiau mawr o rifau i’w trin, mae hon yn ffordd gyflym o ddweud rhywbeth am y set ddata yn ei chyfanrwydd.
Un o gyfyngiadau’r amrediad yw bod gwerth eithafolPwynt data sy'n arwyddocaol fwy/lai na'r rhan fwyaf o'r pwyntiau data eraill. Gall fod yn ganlyniad i gamgymeriad. yn effeithio arno. Edrycha ar y data isod:
1, 1, 3, 12, 2, 4, 5, 2, 1, 1, 6, 3, 4
Ar hyn o bryd, yr amrediad yw 11 (12-1). Fodd bynnag, nid yw hyn yn dweud unrhyw beth defnyddiol wrthyn ni am y data. Y rheswm am hyn yw bod yr un gwerth mawr (12) yn ystumio’r amrediad. Heb yr un gwerth hwn yr amrediad fyddai 5 (6-1). Byddai’r amrediad yn mwy na haneru. Ceir mesurau eraill ar gyfer gwasgariad lle nad yw’r gwerthoedd eithafol yn effeithio cymaint arnyn nhw.
Y canolrif mewn set o ddata yw’r gwerth canol pan fo’r data yn cael eu trefnu yn ôl maint. Pan fo dau werth canol, y canolrif yw cymedrCyfartaledd sy'n cael ei ddarganfod wrth adio'r holl werthoedd â'i gilydd yna rhannu'r cyfanswm gyda'r nifer o werthoedd. y ddau.
Er enghraifft, o’r data uchod:
3, 5, 7, 8, 9, 13, 15
Mae yma saith gwerth, felly’r gwerth canol fydd y pedwerydd. Felly canolrif y data uchod yw wyth.
Dywedir weithiau, os oes gennyn ni n darn o ddata, y canolrif yw’r \(\frac{(n+1)}{2}\) gwerth. Gan ddefnyddio’r enghraifft uchod unwaith eto, gwelwn fod gennyn ni saith gwerth (n=7) felly’r \(\frac{(n+1)}{2}\) gwerth fyddai \(\frac{(7+1)}{2}\) = y 4ydd gwerth, sy’n wyth, fel y sonion ni yn gynharach.
Beth am i ni edrych ar enghraifft arall, beth yw canolrif y data canlynol?
12, 14, 13, 20, 17, 15
Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni eu rhoi mewn trefn yn ôl eu maint:
12, 13, 14, 15, 17, 20
Nawr rydyn ni’n sylwi bod yna ddau werth canol (14 ac 15) felly rhaid i ni ganfod cymedr y rhain. Yn syml, cymedr dau rif yw’r rhif sydd hanner ffordd rhwng y ddau \([\frac{(14+15)}{2}]\).
Felly’r canolrif yw 14.5.
Mae’r canolrif yn mesur canolduedd. Mae’n dweud rhywbeth gwerthfawr wrthyn ni am y data – yn fras, pa werthoedd y gallwn ni eu disgwyl yn y canol. Mae’r cymedr yn fesur arall o’r canolduedd ond, fel yr amrediad, gall gwerthoedd eithafol effeithio arno.
Question
Beth yw amrediad y rhifau canlynol?
13, 3, 8, 16, 12
Y rhif mwyaf yw 16 a’r lleiaf yw tri. Felly’r amrediad yw 16 - 3 = 13
Question
Mae Jim yn cofnodi am faint o funudau mae’n ymarfer pob dydd, yn ei ffôn.
Beth yw canolrif y rhifau canlynol?
19, 42, 45, 36, 23, 27
Trwy ysgrifennu’r rhifau yn eu trefn, cawn:
19, 23, 27, 36, 42, 45
Felly’r canolrif fydd cymedr y ddau rif canol.
\(\frac{{27+36}}{2}={31.5}\) munud
Bydd yn ofalus wrth fewnbynnu hwn i gyfrifiannell, os fyddi di’n teipio 27 + 36 ÷ 2 fe gei di’r ateb 45, sydd yn anghywir. Mae dy gyfrifiannell yn gwneud y cyfrifiadau gan ddilyn trefn BIDMAS ac felly yn rhannu cyn adio. Rhaid rhoi cromfachau o gwmpas yr adio: (27 + 36) ÷ 2