Amrediad a phlotiau blwch a blewynPlotiau blwch a blewyn

Mae plotiau blwch a blewyn yn ffordd effeithiol o gymharu dosraniadau a chrynhoi eu nodweddion yn hawdd. Defnyddir y diagramau hyn yn aml wrth ddadansoddi data ac mewn gwaith ystadegol.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Plotiau blwch a blewyn

Mae plotiau blwch a blewyn yn ffordd effeithiol iawn o ddangos llawer o wybodaeth.

Llinell rhif yn dangos amrediad rhyngchwartel

Mae’r plotiau hyn yn cynnwys yr amrediad, yr amrediad rhyngchwartel, y canolrif, y gwerth isaf, y gwerth uchaf, y chwartel isaf a’r chwartel uchaf. Gallan nhw un ai gael eu llunio ar linell rif fel y gweli di uchod, neu weithiau gall nifer ohonyn nhw gael eu plotio ar graff er mwyn cymharu dosraniadau.

Weithiau bydd gofyn i ti lunio plot blwch a blewyn o ddiagram amlder cronnus.

Graff llinell gyda echelin Y wedi ei labeli ‘Amlder cronnus’ ac echelin X wedi ei labeli ‘Hyd (cm)’ yn cynnwys llinell rhif oddi tano

Gelli wneud hyn trwy ganfod y canolrif a’r amrediad rhyngchwartel yn gyntaf, gan ddefnyddio’r dull arferol, ac yna plotio hwn ar linell rif fel y dangosir uchod.

Question

Llunia blot blwch a blewyn ar gyfer yr wybodaeth ganlynol:

  • Amrediad - 75
  • Gwerth isaf - 15
  • Amrediad rhyngchwartel - 43
  • Chwartel uchaf- 68
  • Canolrif - 44

Question

Mae cwmni gwasanaethau yn ymchwilio i gost biliau nwy a thrydan mewn cartrefi. Maen nhw wedi dadansoddi’r wybodaeth o gannoedd o dai a chanfod mai canolrif y gost yw £66 a’r amrediad rhyngchwartel yw £21. Yr amrediad yw £27.50, y pris rhataf oedd £47.50 a’r chwartel uchaf oedd £74. Defnyddia blot blwch a blewyn i gynrychioli’r wybodaeth hon.