Amlder cronnus - Canolradd ac UwchTablau amlder cronnus

Rydyn ni’n aml yn defnyddio tablau amlder cronnus i ddangos setiau mawr o ddata di-dor neu ddata arwahanol. Mae histogramau yn cael eu defnyddio i ddangos data pan fo maint dosbarthiadau yn wahanol.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Tablau amlder cronnus

Yr amlder cronnus yw’r cyfanswm a geir trwy adio’r amlder wrth fynd ymlaen o un grŵp i’r llall. Gellir dangos hyn ar graff trwy blotio arffin uchaf pob grŵp.

Enghraifft

Edrycha ar y tabl canlynol o farciau:

Tabl dwy golofn ‘x’ a ‘Amlder’

I greu tabl amlder cronnus, yr unig beth sy’n rhaid i ni ei wneud yw adio pob amlder at ei gilydd wrth i ni fynd i lawr y golofn.

Tabl dwy golofn ‘x’ ac ‘Amlder cronnus’

Gelli weld mai 20 yw cyfanswm yr amlder gan mai hwnnw yw’r rhif yn y golofn olaf. Er ei bod weithiau’n anoddach i ni ddehongli’r wybodaeth yn y golofn amlder cronnus, mae’n ein galluogi i lunio graff sy’n cynrychioli’r data yn effeithiol.

Mae’r tabl hwn yn dangos y sgoriau a gafodd disgyblion mewn dosbarth Saesneg:

Tabl dwy golofn ‘Sgôr Saesneg’ ac ‘Amlder’

Mae’r tabl hwn yn debyg iawn i’r tabl cyntaf ond efallai dy fod wedi sylwi nad yw’r cyfyngau dosbarth yr un fath. Mae’r grwpiau cyntaf ac olaf yn cynnwys 20 rhif posib tra bo’r ddau grŵp canol yn cynnwys 10 rhif posib yn unig.

Tabl dwy golofn ‘Sgôr Saesneg’ ac ‘Amlder cronnus’

Question

Llunia dabl amlder cronnus ar gyfer yr wybodaeth ganlynol: zgd4j6f