Amlder cronnus - Canolradd ac UwchDiagramau amlder cronnus

Rydyn ni’n aml yn defnyddio tablau amlder cronnus i ddangos setiau mawr o ddata di-dor neu ddata arwahanol. Mae histogramau yn cael eu defnyddio i ddangos data pan fo maint dosbarthiadau yn wahanol.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Diagramau amlder cronnus

Beth am i ni edrych ar sut rydyn ni’n cynrychioli data cronnus ar ffurf graff.

Tabl dwy golofn ‘Hyd’ ac ‘Amlder cronnus’

Pan fyddwn ni’n plotio’r data hyn, rydyn ni’n gwneud hynny ar arffin uchaf y grŵp. Edrycha ar yr enghraifft isod. Sylwa fod yr amlder cronnus wedi ei blotio ar yr echelin-y a’r hyd ar yr echelin-x. Dyma fydd y drefn gyda diagramau fel hyn bob tro.

Mae’r diagram amlder cronnus hwn yn cynrychioli’r tabl uchod.

Graff llinell gyda echelin Y wedi ei labeli ‘Amlder cronnus’ ac echelin X wedi ei labeli ‘Hyd (cm)’

Question

Llunia ddiagram amlder cronnus ar gyfer yr wybodaeth ganlynol:

Tabl dwy golofn ‘Pellter (m)’ ac ‘Amlder cronnus’