Samplu data - Canolradd ac UwchSamplu a phrofi rhagdybiaethau

Mae samplu yn ein helpu i amcangyfrif nodweddion poblogaeth fawr trwy ddefnyddio grŵp cynrychioladol llai. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth gynnal ymchwil marchnad a phrofion meddygol.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Samplu a phrofi rhagdybiaethau

Os wyt ti eisiau profi’r rhagdybiaeth 'Mae bechgyn yn dalach na merched’, mae’n amhosib mesur taldra pob bachgen a merch sy’n bodoli.

Silwét o griw o fechgyn a merched yn sefyll gyda’i gilydd

Un ffordd synhwyrol o ymdrin â hyn fyddai cymryd detholiad o fechgyn a merched, mesur eu taldra, a defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a yw’r datganiad yn debygol o fod yn wir ai peidio.

Yr enw ar y broses hon yw .

Dim ond os oes gen ti fawr y dylet ti ddefnyddio samplu.

Question

Ym mhob un o’r sefyllfaoedd canlynol, penderfyna a fyddai’n synhwyrol i ddefnyddio sampl ai peidio.

  • Hoffai Bethan wybod sawl gwaith mae pobl Cymru yn mynd i’r sinema bob wythnos.
  • Hoffai Matthew wybod beth mae’r disgyblion yn ei ddosbarth yn ei hoffi orau, byrgyrs neu sglodion.
  • Hoffai Stephen wybod pa un o’r brandiau ffa pôb yw’r rhataf yn ei archfarchnad leol.
  • Hoffai Sian wybod pa fath o fwyd ci sydd fwyaf poblogaidd ymysg perchnogion cŵn anwes – ‘PoochChow’ neu ‘CaneDine’.