Samplu data - Canolradd ac UwchProfi rhagdybiaethau ar hap
Mae samplu yn ein helpu i amcangyfrif nodweddion poblogaeth fawr trwy ddefnyddio grŵp cynrychioladol llai. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth gynnal ymchwil marchnad a phrofion meddygol.
Mewn samplu ar hapYn digwydd heb batrwm. Ddim yn bosib ei ragweld. Yng nghyd-destun ystadegau mae'n golygu bod gan bob eitem yr un tebygolrwydd o gael eu dewis., mae pob aelod o’r boblogaeth yr un mor debygol â’i gilydd o gael eu dewis. Rhai dulliau posib yw defnyddio cynhyrchydd haprifau o raglen gyfrifiadurol, taflu sawl dis neu ddefnyddio’r botwm haprifau ar gyfrifiannell wyddonol.
Figure caption,
Mae tynnu enwau allan o het yn ffordd syml o ddewis hapsampl
Enghraifft
Mae gan Jimmy y rhestr ganlynol o haprifau:
3 6 9 0 1 3 7 4 3 2 2 9 1 3 8 5 4 1 2 7
Mae eisiau eu defnyddio i ddewis pedwar person oddi ar restr o 60.
Yn gyntaf, mae’n grwpio’r rhifau yn barau:
36 90 13 74 32 29 13 85 41 27
Yna mae’n tynnu’r rhifau sy’n fwy na 60, unrhyw rifau sy’n cael eu hailadrodd, a 00.
36 13 32 29 41 27
Yn olaf, mae’n dewis y 36ain, 13eg, 32ain a’r 29ain person ar y rhestr.
Question
Hoffai Michael ddewis sampl o ddeg person oddi ar restr o 70. Gan ddefnyddio’r ffwythiant haprifau ar gyfrifiannell, mae’n cael y rhifau canlynol:
Pa rifau ddylai ef eu defnyddio i ffurfio ei sampl?