Samplu data - Canolradd ac UwchSamplu’n systematig ac ar hap

Mae samplu yn ein helpu i amcangyfrif nodweddion poblogaeth fawr trwy ddefnyddio grŵp cynrychioladol llai. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth gynnal ymchwil marchnad a phrofion meddygol.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Samplu’n systematig ac ar hap

Ystyr samplu’n systematig yw profi rhagdybiaeth trwy gymryd nifer o eitemau allan o restr hirach, a bwlch cyfartal rhyngddyn nhw, ee dewis y degfed, yr 20fed a’r 30ain ymwelydd â pharc thema. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn wrth brofi cynnyrch, yn enwedig os oes rhaid dinistrio’r eitem yn ystod y prawf.

Enghraifft

Mae cwmni Megan yn cynhyrchu ffonau clyfar. Er mwyn sicrhau bod pob un o ansawdd uchel, hoffai gymryd sampl systematig o saith ffôn allan o bob 1,000 sy’n cael eu cynhyrchu. Mae Megan yn cyfrifo cyfwng y gallai ei ddefnyddio trwy rannu 1,000 â 7 a thalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

Belt ffatri cynhyrchu gyda thri ffôn clyfar wedi’u labelu i gynrychioli samplo systematig

1,000 ÷ 7 = 142.857143...

Felly un cyfwng y gallai ei ddefnyddio yw 142.

Gall sampl systematig Megan gychwyn gydag unrhyw rif cyn belled a bod yr un cyfwng rhwng yr holl rifau a ddaw ar ei ôl. Mae Megan yn dewis cychwyn â’r rhif 100.

Mae’n dewis y ffonau canlynol i’w profi:

100, 242, 384, 526, 668, 810, 952

Question

Er mwyn cymryd sampl systematig o wyth, allan o restr o 45 person, pa un fyddai’n gyfwng synhwyrol i’w ddefnyddio?

  • 3
  • 5
  • 7
  • 9