Amlder cronnus - Canolradd ac UwchHistogramau - haen uwch yn unig
Rydyn ni’n aml yn defnyddio tablau amlder cronnus i ddangos setiau mawr o ddata di-dor neu ddata arwahanol. Mae histogramau yn cael eu defnyddio i ddangos data pan fo maint dosbarthiadau yn wahanol.
Mae histogram yn edrych fel siart bar, ond arwynebedd y bar ac nid ei uchder sy'n dangos amlder y data. Fel arfer, mae histogramau'n cael eu defnyddio pan mae'r data mewn grwpiau o led anghyfartal.
Edrycha ar y tabl canlynol sy’n dangos uchder amrywiol y gwahanol blanhigion:
Mae’r diagram amlder isod yn cynrychioli’r data o’r tabl, a’r amlder wedi ei blotio ar yr echelin-y.
Beth am i ni nawr edrych ar ail dabl, a’r tro hwn mae lled y dosbarthiadau yn anghyfartal.
Pan fo lled y dosbarthiadau yn anghyfartal, mae’n gyffredin i ni blotio ‘dwysedd amlder’ yn hytrach nac amlder. I gyfrifo dwysedd amlder, rhaid i ti rannu amlder y grŵp â lled y grŵp.
Er enghraifft, edrycha ar y grŵp cyntaf, 5 \(\textless\) × \(\leq\) 11. Amlder y grŵp hwn yw chwech. Rydyn ni’n rhannu hwn â lled y grŵp, sydd hefyd yn chwech, felly’r dwysedd amlder yw un.
Fe edrychwn ni ar yr ail grŵp, 11 \(\textless\) × \(\leq\) 16. Amlder y grŵp hwn yw 15 a’r lled yw pump. Y dwysedd amlder yw 15 ÷ 5 = 3.
Dau yw lled y grŵp olaf, sef 16 \(\textless\) × \(\leq\) 18 ac mae’r amlder yn bedwar. Y dwysedd amlder yw 4 ÷ 2 = 2.