Cyfartaleddau ac amrediadCanfod y cymedr o dabl

Mae cyfartaleddau’n rhoi gwybodaeth i ni am set o ddata rhifiadol, yn rhoi gorolwg o’r gwerthoedd a dweud wrthyn ni beth yw’r canlyniad mwyaf cyffredin. Mae’r amrediad yn fesur o wasgariad y data.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Canfod y cymedr o dabl

Pan fo data’n cael eu cyflwyno ar ffurf rhestr, fel yn yr enghraifft isod, er mwyn canfod y cymedr, rwyt ti’n adio nifer yr anifeiliaid anwes ac yna rhannu’r swm hwnnw â chyfanswm nifer y bobl a holwyd.

Gan y byddai’n hawdd iawn i ni wneud camgymeriad wrth adio 50 o werthoedd at ei gilydd, rhaid i ni ddefnyddio dull gwahanol pan fo’r wybodaeth yn cael ei rhoi i ni ar ffurf tabl.

Cyfrifa gymedr nifer yr anifeiliaid anwes.

Tabl â dwy golofn. Colofn un yn dangos nifer yr anifeiliaid anwes sydd wedi'u perchen, wedi'u rhifo o 0 i 5. Colofn dau yn dangos yr amlder

1. Llunia golofn newydd ‘Cyfanswm nifer yr anifeiliaid anwes’ a chyfrifa gyfanswm nifer yr anifeiliaid anwes ym mhob grŵp trwy luosi nifer yr anifeiliaid anwes â’r amlder.

Tabl â thair colofn. Colofn un yn dangos nifer yr anifeiliaid anwes sydd wedi'u perchen, wedi'u rhifo o 0 i 5. Colofn dau yn dangos yr amlder. Colofn tri yn dangos cyfanswm y nifer o anifeiliaid anwes

2. Wrth eu hadio at ei gilydd, cawn gyfanswm o 94 anifail anwes.

3. Rhanna gyfanswm nifer yr anifeiliaid anwes â chyfanswm y golofn amlder i ganfod y cymedr:

Cymedr = 94 ÷ 50 = 1.88

Pan fo data wedi eu grwpio nid ydyn ni bellach yn gwybod union werth bob darn o ddata.

Yn lle hynny, rydyn ni’n cyfrifo canolbwynt y grŵp a chymryd hwn fel gwerth i gynrychioli’r grŵp cyfan.

I gyfrifo’r canolbwynt, adia’r ddau ddiweddbwynt at ei gilydd a rhannu â 2.

Yna gallwn ganfod y cymedr yn yr un ffordd ag o’r blaen.

Question

Cyfrifa gymedr y pellteroedd a daflwyd mewn cystadleuaeth taflu disgen.

Tabl amlder yn grwpiau yn dangos y pellter a daflwyd mewn metrau mewn cystadleuaeth disgen