Cyfartaleddau ac amrediadCymharu dwy set o ddata

Mae cyfartaleddau’n rhoi gwybodaeth i ni am set o ddata rhifiadol, yn rhoi gorolwg o’r gwerthoedd a dweud wrthyn ni beth yw’r canlyniad mwyaf cyffredin. Mae’r amrediad yn fesur o wasgariad y data.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Cymharu dwy set o ddata

Gall fod yn ddefnyddiol i ni gymharu dwy set o ddata gan ddefnyddio’r cymedr, y modd neu’r canolrif er mwyn llunio casgliadau am yr wybodaeth a gyflwynir.

Efallai dy fod yn dewis un mesur yn lle un arall oherwydd ei gywirdeb, neu’n dewis yr un gorau i gefnogi’r hyn rwyt ti eisiau ei ddangos.

Question

Mae Robert ac Emily yn paratoi ar gyfer eu TGAU Mathemateg. Dyma’u canlyniadau mewn 10 papur ymarfer:

Robert: 63, 86, 64, 67, 71, 42, 79, 64, 80, 64

Emily: 61, 73, 82, 90, 61, 67, 76, 40, 80, 62

  1. Gan ddefnyddio’r cymedr, penderfyna pwy sy’n perfformio orau yn eu profion Mathemateg.
  2. Gallai Robert ddefnyddio’r cymedr, y modd neu’r canolrif i awgrymu ei fod yn well nag Emily mewn Mathemateg?

A fyddai hyn yn cynrychioli eu canlyniadau mewn ffordd deg?

Question

Mae dau ddisgybl yn ymarfer ar gyfer ras wib dros 100 m. Dyma’r amseroedd yn eu hymarferion (mae pob un o’r amseroedd mewn eiliadau):

Disgybl A: 20, 19, 22, 18, 20, 21, 18, 35

Disgybl B: 18, 19, 18, 21, 21, 21, 23, 22

Pa fesur canolduedd allai’r ddau ddisgybl ei ddefnyddio i brofi mai nhw yw’r gwibiwr cyflymaf?

Tabl yn dangos cymedr, canolrif, a modd yr amseroedd rhedeg ar gyfer disgyblion A a B yn y ras gwib 100 m