Cyfartaleddau ac amrediadModd a chanolrif o dabl

Mae cyfartaleddau’n rhoi gwybodaeth i ni am set o ddata rhifiadol, yn rhoi gorolwg o’r gwerthoedd a dweud wrthyn ni beth yw’r canlyniad mwyaf cyffredin. Mae’r amrediad yn fesur o wasgariad y data.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Modd a chanolrif o dabl

Pan fo nifer fawr o werthoedd dan sylw, gall y data gael eu cyflwyno mewn tabl.

Gofynnwyd i ddisgyblion ym mlwyddyn 6 Ysgol San Jude faint o frodyr a chwiorydd oedd ganddyn nhw. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn y tabl hwn.

Tabl yn dangos nifer y disgyblion ym mlwyddyn 6 yn Ysgol St Jude sydd â brodyr a chwiorydd, a nifer y brodyr a chwiorydd sydd gan bob disgybl

Modd nifer y brodyr a’r chwiorydd yw’r grŵp sy’n cynnwys yr amlder mwyaf.

Ar gyfer disgyblion blwyddyn 6, modd nifer y brodyr a’r chwiorydd yw 2.

I ganfod y canolrif, rhaid i ni’n gyntaf gyfrifo ym mha safle y bydd y canolrif yn y data. Os oes n darn o ddata, bydd gwerth y canolrif yn safle \(\frac {n~+~1} {2}\).

Gan fod yna 50 person, gwerth y canolrif fydd y 25.5ain gwerth, sy’n ei osod rhwng y 25ain a’r 26ain gwerth.

Mae gan y 7 person cyntaf 0 brawd neu chwaer, mae gan 20 person 0 neu 1 brawd neu chwaer, sy’n golygu bod y 25ain a’r 26ain gwerth yn y grŵp sy’n dangos 2 frawd neu chwaer, felly hwn yw’r canolrif.

Pan fo nifer o gategorïau, mae’r data’n aml yn cael eu rhoi mewn grwpiau.

Gall grwpiau gael eu hysgrifennu fel:

0 – 4 sy’n golygu ei fod yn cynnwys y rhifau 0, 1, 2, 3 and 4.

\({0}~\leq~\times~\textless~{10}\) sy’n golygu’r holl werthoedd rhwng 0 a 10 (heb gynnwys 10)

Bydd data yn cael eu cyflwyno yn y ffordd hon oherwydd gall gymryd unrhyw nifer o werthoedd.

Mae’r tabl amlder grŵp hwn yn dangos y pellteroedd a daflwyd mewn cystadleuaeth taflu gwaywffon.

Tabl amlder yn grwpiau yn dangos y pellter a daflwyd mewn metrau mewn cystadleuaeth waywffon

Question

Beth yw’r grŵp modd?

Question

Ym mha grŵp mae’r canolrif?