Cyfartaleddau ac amrediadDewis cyfartaleddau

Mae cyfartaleddau’n rhoi gwybodaeth i ni am set o ddata rhifiadol, yn rhoi gorolwg o’r gwerthoedd a dweud wrthyn ni beth yw’r canlyniad mwyaf cyffredin. Mae’r amrediad yn fesur o wasgariad y data.

Part ofMathemateg RhifeddYstadegau

Dewis cyfartaleddau

Mae pob mesur canolduedd yn dehongli’r data mewn ffordd wahanol. Mae’n bwysig ein bod yn gallu gwerthuso pa gyfartaledd sy’n cynrychioli’r data orau, o ystyried y math o wybodaeth sydd ar gael a’r gwerthoedd dan sylw.

Question

O’r 10 prawf ymarfer a orffennodd Robert, cyfrifodd hyn:

  • cymedr = 68
  • modd = 65.5
  • canolrif = 64

Pa fesur fyddai’n gwneud i’w sgôr cyfartalog ymddangos ar ei uchaf?

Question

Dyma oedd y gwerthiant dyddiol mewn siop dros yr wythnos ddiwethaf: £326, £540, £385, £450, £2435, £459, £493. Ai’r cymedr neu’r canolrif yw’r mesur canolduedd mwyaf dibynadwy?

Question

Mae Contract Crunchers yn gwerthu cytundebau ffonau symudol i 8 cwsmer un bore. Cost fisol y cytundebau hyn yw:

£45, £35, £35, £20, £34, £35, £35 a £35.

A yw’r modd yn disgrifio’r data hyn yn dda? Esbonia dy ateb.