Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio mewn ysgol

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am tua 15:20 ar 5 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i athrawes gael ei thrywanu mewn ysgol.
Cafodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn Sir Benfro ei roi dan fesurau clo tua 15:20 ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod disgybl wedi ymosod ar athro gydag arf.
Cafodd yr athrawes, a gafodd ei henwi yn flaenorol yn y llys fel Vicky Williams, ei rhyddhau o'r Ysbyty'r noson honno.
Fe ymddangosodd y bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, wedi ei gyhuddo hefyd o achosi niwed corfforol difrifol a bod â llafn yn ei feddiant ar dir ysgol.

Ni ofynnwyd iddo roi ple ond pe bai achos yn digwydd, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC y byddai hynny'n digwydd ym mis Gorffennaf.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe esboniodd yr erlyniad wrth y llys fod y bachgen wedi ymosod ar Williams gyda chyllell gegin.
Cafodd ei gadw mewn llety cadw ieuenctid ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar yr 8fed o Fai.
Aberdaugleddau: Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.